A oes gennych chi ddiddordeb mewn gweithio ym maes gofal, ond dim syniad ble i gychwyn? Os felly, mae ein digwyddiad recriwtio yn gyfle delfrydol i ddysgu beth yw gweithio mewn gofal, yn ogystal â sut y gallwch gymryd y cam nesaf yn eich gyrfa.
Bydd ein digwyddiad anffurfiol yn cael ei gynnal ddydd Iau, 21 Mawrth rhwng 1pm a 4pm yng Nghanolfan Adnoddau Cymunedol Acton, a bydd cyfle i chi siarad gyda’r bobl sy’n gweithio yn ein gwasanaethau. Byddwch yn cael clywed am eu profiad o weithio yn ein tîm a dysgu mwy am y swyddogaethau a’r cyfleoedd hyfforddi sydd ar gael.
Bydd cyfarfod ein tîm yn ffordd wych i chi gael dysgu am sut rydym yn gweithio, a bydd hefyd yn rhoi cyfle i ni ddysgu mwy amdanoch chi a’r hyn sydd gennych i’w gynnig.
Rydym yn gwybod y gall weithiau fod yn anodd dangos popeth sydd gennych i’w gynnig ar ffurflen gais. Rydym yn cytuno, a dyna pam bod ein Recriwtio ar sail Gwerth yn canolbwyntio ARNOCH CHI fel unigolyn. Byddai’n well gennym gael cwrdd â chi, dysgu amdanoch a mynd o fanno.
Beth yw’r swyddi?
Ar hyn o bryd, mae gennym lawer o gyfleoedd ym maes gofal cartref (yn cynnwys gofal cartref, gwasanaethau byw yn y gymuned a gwasanaethau adfer) a gofal preswyl (gofal seibiant i oedolion, gofal seibiant i blant a chartrefi preswyl i blant).
Mae gofal cymdeithasol yn llawer mwy na gofal personol ac yn cynnig amrywiaeth a chyfleoedd newydd. Wrth weithio fel Gweithiwr Cefnogi, fe allech chi fod yn newid bywydau er gwell drwy helpu oedolion i fyw bywyd mor annibynnol ag sy’n bosib. Fel Swyddog Gofal Plant Preswyl, fe allech chi fod yn gweithio i annog a grymuso plant a phobl ifanc i wella eu hunanhyder a’u hymdeimlad o werth – pa mor arbennig yw hynny?
Meddai Jason, Gweithiwr Cefnogi, Gwasanaeth Byw yn y Gymuned: “Rwy’n mwynhau gwaith cefnogi oherwydd y gweithgareddau a chael crwydro yma ac acw tra’r ydw i’n helpu rhywun i fyw eu bywyd yn llawn.”
Dewch draw i ddysgu mwy am y rolau hyn a chael syniad o’r lle gorau i chi yn ein tîm. Os ydych yn dod o hyd i’r hyn rydych yn chwilio amdano, gallwn eich cefnogi gyda’ch ffurflen gais a’ch helpu i gael unrhyw hyfforddiant fyddwch ei angen.
Eisiau gwybod mwy? Yna, dewch draw i gael sgwrs gyda ni ddydd Iau, 21 Mawrth, rhwng 1pm a 4pm yng Nghanolfan Adnoddau Cymunedol Acton.
Dyma ychydig o resymau pam bod gweithio ym maes gofal yn gallu bod yn wych…
• Y teimlad da hwnnw: Gwnewch wahaniaeth a theimlo’n wych am hynny!
• Tîm hapus a chefnogol: Rhaglen lles gweithwyr, rheoli drws agored a goruchwylio rheolaidd a chyfleoedd datblygu.
• Strwythur cyflogau sy’n caniatáu datblygu gyrfa: Gan gynnwys buddion eraill i’r gweithiwr fel mamolaeth, absenoldeb rhiant, cynllun salwch.
• Hyd at 32 diwrnod o wyliau blynyddol yn seiliedig ar wasanaeth: Digon o amser ar gyfer gwyliau, bywyd y cartref a gorffwys.
• Cydbwysedd bywyd a gwaith: Yn cynnwys gweithio’n hyblyg.
• Hyfforddiant o ansawdd uchel yn rhad ac am ddim: Cyrsiau a chymwysterau di-rif.
• Pensiwn Llywodraeth Leol: Diogel a hyblyg.
• Gostyngiadau ac arbedion: Cerdyn Blue Light, cynllun beicio i’r gwaith, talebau gofal plant a mwy.
Swyddi a gyrfaoedd – gweithiwch i ni a bod yn rhan o’r stori.