Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Ydych chi’n ystyried gyrfa ym maes gofal? Dewch i gyfarfod ein tîm mewn digwyddiad recriwtio! (21/03/24)
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Ydych chi’n ystyried gyrfa ym maes gofal? Dewch i gyfarfod ein tîm mewn digwyddiad recriwtio! (21/03/24)
Pobl a lleBusnes ac addysg

Ydych chi’n ystyried gyrfa ym maes gofal? Dewch i gyfarfod ein tîm mewn digwyddiad recriwtio! (21/03/24)

Diweddarwyd diwethaf: Mawrth 15, 2024 9:29 am
Rhannu
Darllen 4 funud
Ydych chi’n ystyried gyrfa ym maes gofal? Dewch i gyfarfod ein tîm mewn digwyddiad recriwtio! (21/03/24)
RHANNU

A oes gennych chi ddiddordeb mewn gweithio ym maes gofal, ond dim syniad ble i gychwyn? Os felly, mae ein digwyddiad recriwtio yn gyfle delfrydol i ddysgu beth yw gweithio mewn gofal, yn ogystal â sut y gallwch gymryd y cam nesaf yn eich gyrfa.

Cynnwys
  • Beth yw’r swyddi?
  • Dyma ychydig o resymau pam bod gweithio ym maes gofal yn gallu bod yn wych…

Bydd ein digwyddiad anffurfiol yn cael ei gynnal ddydd Iau, 21 Mawrth rhwng 1pm a 4pm yng Nghanolfan Adnoddau Cymunedol Acton, a bydd cyfle i chi siarad gyda’r bobl sy’n gweithio yn ein gwasanaethau. Byddwch yn cael clywed am eu profiad o weithio yn ein tîm a dysgu mwy am y swyddogaethau a’r cyfleoedd hyfforddi sydd ar gael.

Bydd cyfarfod ein tîm yn ffordd wych i chi gael dysgu am sut rydym yn gweithio, a bydd hefyd yn rhoi cyfle i ni ddysgu mwy amdanoch chi a’r hyn sydd gennych i’w gynnig.

Rydym yn gwybod y gall weithiau fod yn anodd dangos popeth sydd gennych i’w gynnig ar ffurflen gais. Rydym yn cytuno, a dyna pam bod ein Recriwtio ar sail Gwerth yn canolbwyntio ARNOCH CHI fel unigolyn. Byddai’n well gennym gael cwrdd â chi, dysgu amdanoch a mynd o fanno.

Beth yw’r swyddi?

Ar hyn o bryd, mae gennym lawer o gyfleoedd ym maes gofal cartref (yn cynnwys gofal cartref, gwasanaethau byw yn y gymuned a gwasanaethau adfer) a gofal preswyl (gofal seibiant i oedolion, gofal seibiant i blant a chartrefi preswyl i blant).

Mae gofal cymdeithasol yn llawer mwy na gofal personol ac yn cynnig amrywiaeth a chyfleoedd newydd. Wrth weithio fel Gweithiwr Cefnogi, fe allech chi fod yn newid bywydau er gwell drwy helpu oedolion i fyw bywyd mor annibynnol ag sy’n bosib. Fel Swyddog Gofal Plant Preswyl, fe allech chi fod yn gweithio i annog a grymuso plant a phobl ifanc i wella eu hunanhyder a’u hymdeimlad o werth – pa mor arbennig yw hynny?

Meddai Jason, Gweithiwr Cefnogi, Gwasanaeth Byw yn y Gymuned: “Rwy’n mwynhau gwaith cefnogi oherwydd y gweithgareddau a chael crwydro yma ac acw tra’r ydw i’n helpu rhywun i fyw eu bywyd yn llawn.”

Dewch draw i ddysgu mwy am y rolau hyn a chael syniad o’r lle gorau i chi yn ein tîm. Os ydych yn dod o hyd i’r hyn rydych yn chwilio amdano, gallwn eich cefnogi gyda’ch ffurflen gais a’ch helpu i gael unrhyw hyfforddiant fyddwch ei angen.

Eisiau gwybod mwy? Yna, dewch draw i gael sgwrs gyda ni ddydd Iau, 21 Mawrth, rhwng 1pm a 4pm yng Nghanolfan Adnoddau Cymunedol Acton.

Dyma ychydig o resymau pam bod gweithio ym maes gofal yn gallu bod yn wych…

• Y teimlad da hwnnw: Gwnewch wahaniaeth a theimlo’n wych am hynny!

• Tîm hapus a chefnogol: Rhaglen lles gweithwyr, rheoli drws agored a goruchwylio rheolaidd a chyfleoedd datblygu.

• Strwythur cyflogau sy’n caniatáu datblygu gyrfa:  Gan gynnwys buddion eraill i’r gweithiwr fel mamolaeth, absenoldeb rhiant, cynllun salwch.

• Hyd at 32 diwrnod o wyliau blynyddol yn seiliedig ar wasanaeth:  Digon o amser ar gyfer gwyliau, bywyd y cartref a gorffwys.

• Cydbwysedd bywyd a gwaith: Yn cynnwys gweithio’n hyblyg.

• Hyfforddiant o ansawdd uchel yn rhad ac am ddim:  Cyrsiau a chymwysterau di-rif.

• Pensiwn Llywodraeth Leol: Diogel a hyblyg.

• Gostyngiadau ac arbedion: Cerdyn Blue Light, cynllun beicio i’r gwaith, talebau gofal plant a mwy.

Swyddi a gyrfaoedd – gweithiwch i ni a bod yn rhan o’r stori.

Diweddariad: Cyrsiau beicio rhad ac am ddim ar y gweill – archebwch eich lle! – Newyddion Cyngor Wrecsam

TAGGED:caregofaljobjobsswyddi
Rhannu
Erthygl flaenorol Artist's impression Rhannwch eich barn ar gynlluniau Rob i harddu Wrecsam fel teyrnged i Ryan!
Erthygl nesaf Pianydd ifanc rhyfeddol i berfformio cyngerdd rhad ac am ddim yn Tŷ Pawb Pianydd ifanc rhyfeddol i berfformio cyngerdd rhad ac am ddim yn Tŷ Pawb

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Mayor with Nightingale House Hospice team
Y Maer yn achub ar y cyfle ac yn mynd amdani gyda Monopoly newydd Wrecsam
Arall Fideo Pobl a lle
Medi 9, 2026
Guildhall ceremony room
Ystafell Seremonïau Neuadd y Dref ar ei newydd wedd
Arall Pobl a lle Y cyngor
Medi 9, 2026
Guildhall
Datganiad gan Gyngor Wrecsam: Dyfarniad uchel lys wedi’i sicrhau dros ddatblygiad anawdurdodedig yng Nghoed-poeth
Y cyngor
Medi 8, 2026
Mayor with the Registrar team
Ystafell seremoni Neuadd y Dref yn ailagor yn swyddogol ar ôl ei hadnewyddu
Arall Pobl a lle Y cyngor
Medi 4, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Derbyn i ysgolion: dyddiadau allweddol ar gyfer 2026/2027
Busnes ac addysgY cyngor

Derbyn i ysgolion: dyddiadau allweddol ar gyfer 2026/2027

Medi 4, 2026
Football park and ride
Datgarboneiddio WrecsamPobl a lle

Wrecsam v Burnley – tynnwch y straen allan o barcio ar ddiwrnod y gêm

Medi 4, 2026
Penley Hospital
ArallPobl a lle

Ymgynghoriad ar ddyfodol gwasanaethau yn Ysbyty Llannerch Banna

Medi 3, 2026
BetterPoints Wrecsam yn lansio gyda gwobr gwyliau gwerth £900 mewn dinas yn Ewrop
Pobl a lleY cyngor

BetterPoints Wrecsam yn lansio gyda gwobr gwyliau gwerth £900 mewn dinas yn Ewrop

Medi 3, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English