Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Rhannwch eich barn ar gynlluniau Rob i harddu Wrecsam fel teyrnged i Ryan!
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Rhannwch eich barn ar gynlluniau Rob i harddu Wrecsam fel teyrnged i Ryan!
Pobl a lle

Rhannwch eich barn ar gynlluniau Rob i harddu Wrecsam fel teyrnged i Ryan!

Diweddarwyd diwethaf: March 14, 2024 9:54 pm
Rhannu
Darllen 2 funud
Artist's impression
RHANNU

Bydd Parks and Wrex – y prosiect sy’n ceisio creu gofod cymunedol bywiog ar Stryt Henblas – yn Tŷ Pawb fory i holi’r cyhoedd beth yw eu barn ar y syniadau cychwynnol.

Nod y prosiect yw trawsnewid hen safle’r Hippodrome yng nghanol y ddinas yn ofod cyhoeddus bywiog. Cyhoeddwyd fis Hydref y llynedd y byddai perchennog CPD Wrecsam, Rob McElhenney, yn gweddnewid y safle fel teyrnged i’w ffrind gorau a’r cyd-berchennog, Ryan Reynolds.

Mae arweinydd y prosiect, Bryan Swarberg, yn annog pobl i fynd i Tŷ Pawb fory i gwrdd â’r tîm a gofyn cwestiynau. Meddai: “Y prif nod yw cael barn busnesau lleol a’r gymuned ar ein syniadau a’n bwriadau a gwneud yn siŵr eu bod nhw’n gallu dylanwadu ar y gofod cyn i ni ddechrau’r broses gynllunio. Byddwn yma i ateb unrhyw gwestiwn ac i wrando ar bryderon.”

Gallwch alw heibio i gwrdd â’r tîm a dysgu mwy am y cynlluniau rhwng 11am a 2pm ddydd Gwener 15 Mawrth.

Meddai’r Cynghorydd Nigel Williams, Aelod Arweiniol Economi Cyngor Wrecsam: “Mae hwn yn brosiect cyffrous iawn ac yn enghraifft arall o sut mae Rob a Ryan yn gwneud gwahaniaeth go iawn yn Wrecsam. Mae’r prosiect yn cyd-fynd yn dda gyda’n huchelgeisiau creu lleoedd yng nghanol y ddinas, ac mae’r cynigion cynnar i ddatblygu’r safle’n ofod cymunedol yn ddiddorol iawn. Felly dewch draw i Tŷ Pawb i rannu’ch barn a’ch syniadau gyda thîm y prosiect.”

Fe allwch chi ganfod mwy o wybodaeth am y prosiect ar wefan Parks and Wrex.

Rhannu
Erthygl flaenorol Sanitary bins Biniau glanweithiol i ddynion bellach ar gael yn nhoiledau Wrecsam – Am y tro cyntaf yng ngogledd Cymru
Erthygl nesaf Ydych chi’n ystyried gyrfa ym maes gofal? Dewch i gyfarfod ein tîm mewn digwyddiad recriwtio! (21/03/24) Ydych chi’n ystyried gyrfa ym maes gofal? Dewch i gyfarfod ein tîm mewn digwyddiad recriwtio! (21/03/24)

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Remembrance Sunday - image shows the cenotaph at Bodhyfryd in Wrexham
Wrecsam yn Cofio – Diwrnod y Cadoediad a Sul y Cofio 2026
Pobl a lle
November 5, 2026
Walking
Ewch yn Lleol ym mis Tachwedd
Pobl a lle Arall
November 5, 2026
Maes Parcio
🚗🚌 Wrecsam v Wolves – beth am Barcio a Theithio? ⚽
Pobl a lle Digwyddiadau
November 5, 2026
Noson tân gwyllt – syniadau cyn cynnau
Noson tân gwyllt – syniadau cyn cynnau
Y cyngor
November 4, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Vote
Pobl a lleBusnes ac addysg

Mewn dau le ar yr un pryd…

November 2, 2026
Armed Forces
Y cyngorDigwyddiadauPobl a lle

Gwasanaeth Carolau Cymunedol y Lluoedd Arfog yn dychwelyd… 3 Rhagfyr 🎄

October 28, 2026
Wrecsam yn dathlu buddugoliaeth Aur a chategori ym Mhrydain yn ei Blodau 2026 
Y cyngorDigwyddiadauPobl a lle

Wrecsam yn dathlu buddugoliaeth Aur a chategori ym Mhrydain yn ei Blodau 2026 

October 28, 2026
Annog trigolion Wrecsam i ofalu rhag masnachwyr twyllodrus yn dilyn storm Austen
Pobl a lle

Annog trigolion Wrecsam i ofalu rhag masnachwyr twyllodrus yn dilyn storm Austen

October 27, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English