Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Ydym ni’n rheoli ein risgiau? Cewch wybod ar 24 Medi
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > Ydym ni’n rheoli ein risgiau? Cewch wybod ar 24 Medi
Y cyngor

Ydym ni’n rheoli ein risgiau? Cewch wybod ar 24 Medi

Diweddarwyd diwethaf: Medi 23, 2019 4:58 pm
Rhannu
Darllen 2 funud
Wrexham Council News
RHANNU

Diogelwch. Seiberddiogelwch. Twyll. Tywydd eithafol. Costau. Adnoddau. A chant a mil o bethau eraill.

Cynnwys
  • I’w drafod ar 24 Medi
  • Dewch i’r cyfarfod

Fel unrhyw sefydliad mawr, mae Cyngor Wrecsam yn wynebu llawer iawn o risgiau – ac mae gofyn i ni eu rheoli.

Oherwydd os yw rhai pethau yn mynd o chwith, gallant gael effaith drom ar ein gwasanaethau … ac ar y bobl sy’n eu defnyddio.

Mae’n rhaid i ni sicrhau felly ein bod yn gwybod beth yw’r prif risgiau, a’n bod yn gwneud digon i rwystro neu leihau eu heffaith.

I’w drafod ar 24 Medi

Bydd ein Pwyllgor Archwilio yn cyfarfod ddydd Mawrth, 24 Medi i edrych ar y prif risgiau a wynebir gan y Cyngor, yr hyn yr ydym yn ei wneud i’w rheoli, a pha mor dda yr ydym yn gwneud hynny.

Jerry O’Keeffe yw cadeirydd y pwyllgor. Nid yw’n gynghorydd nac yn weithiwr, ond yn hytrach yn aelod annibynnol o’r cyhoedd.

Dywed: “Mae Cynghorau yn gyrff cymhleth. Maent yn darparu gwasanaethau sy’n effeithio arnom i gyd ac yr ydym yn dibynnu arnyn nhw.

“Mae angen i’r Cyngor adnabod ei risgiau a chanolbwyntio ar y rhai pwysicaf, gan sicrhau fod y mesurau rheoli cywir yn eu lle.”

Bydd y Pwyllgor Archwilio hefyd yn edrych ar y gwaith sy’n cael ei wneud gan archwilwyr y Cyngor. Ychwanegodd Mr O’Keeffe, “Mae hefyd yn hanfodol fod archwilio effeithio yn digwydd i sicrhau fod y mesurau rheoli yn gweithio ac yn ddigon cryf”.

Dewch i’r cyfarfod

Mae’r cyfarfodydd hyn yn agored i’r cyhoedd, felly beth am fynd draw os gewch chi gyfle?

Dywed Mr O’Keeffe: “Mae’r pwyllgor yn edrych ar faterion difrifol, ond nid yw’r cyfarfodydd yn frawychus nac yn orffurfiol. Rydym yn croesawu aelodau’r cyhoedd i fod yn bresennol.”

Oes gennych chi ddiddordeb? Cynhelir y cyfarfod ddydd Mawrth 24 Medi yn Neuadd y Dref, Wrecsam. Bydd yn dechrau am 4pm.

Gweler yr agenda ar wefan y cyngor.

Rhannu
Erthygl flaenorol Macmillan coffee morning Bore Coffi Macmillan
Erthygl nesaf Ydych chi am gael ymddeoliad o’ch dymuniad? Ydych chi am gael ymddeoliad o’ch dymuniad?

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

'Dathliad enfawr a gwyllt!' - Bandiau Wrecsam yn ymuno ar gyfer sioe lwyddiannus i lansio albwm
‘Dathliad enfawr a gwyllt!’ – Bandiau Wrecsam yn ymuno ar gyfer sioe lwyddiannus i lansio albwm
Pobl a lle Digwyddiadau
Hydref 14, 2026
Parciau am ddim ar ddiwrnodau gemau
Wrecsam v Preston: dewiswch y parcio a theithio
Pobl a lle Digwyddiadau
Hydref 14, 2026
Wrecsam yn paratoi ar gyfer y gaeaf sydd o'n blaenau
Wrecsam yn paratoi ar gyfer y gaeaf sydd o’n blaenau
Y cyngor
Hydref 14, 2026
Datblygu arloesi ffresni bwyd
Datblygu arloesi ffresni bwyd
Busnes ac addysg
Hydref 13, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau gwastraff ac ailgylchu yn Wrecsam
Y cyngor

Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau gwastraff ac ailgylchu yn Wrecsam

Hydref 9, 2026
Apêl cotiau gaeaf i blant 2026
Y cyngor

Apêl cotiau gaeaf i blant 2026

Hydref 9, 2026
Helpwch i ddatgelu hanes sinemâu a theatrau Wrecsam
Y cyngorDigwyddiadau

Helpwch i ddatgelu hanes sinemâu a theatrau Wrecsam

Hydref 9, 2026
Horace outside Wrexham Library
FideoPobl a lleY cyngor

Braw i bawb yn Llyfrgell Wrecsam

Hydref 8, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English