Mae’r cyngor yn gwario eich arian chi … ar ddarparu gwasanaethau i chi.
Felly mae angen i ni sicrhau bod arian trethdalwyr yn cael ei reoli’n gywir ac y rhoddir cyfrif priodol amdano.
Mae angen i ni hefyd wybod beth a all ein hatal rhag darparu gwasanaethau i chi – y risgiau.
Dyma beth fydd ein Pwyllgor Archwilio yn edrych amdano pan fydd yn cwrdd ar ddydd Iau, 19 Rhagfyr.
DERBYNIWCH Y WYBODAETH DDIWEDDARAF – YMAELODWCH I GAEL EIN PRIF STRAEON.
Yr hyn sydd i’w drafod ar 19 Rhagfyr
Bydd y pwyllgor yn edrych ar waith ein harchwilwyr – yn fewnol ac yn allanol.
Bydd hefyd yn edrych ar yr hyn y mae’r cyngor yn ei wneud i nodi a rheoli ei risgiau.
Jerry O’Keeffe sy’n cadeirio’r pwyllgor. Nid yw’n gynghorydd nac yn weithiwr, ond yn hytrach yn aelod annibynnol o’r cyhoedd.
Dywed: “Mae Cynghorau yn sefydliadau cymhleth sy’n effeithio arnom ni i gyd. Mae gwaith archwilio a rheoli risg effeithiol yn hanfodol i sicrhau bod rheolaethau yn ddigon cryf i amddiffyn y cyngor rhag gwallau, twyll a gwastraff.
“Rydyn ni hefyd yn sicrhau bod rheolwyr yn rhoi unrhyw welliannau y cytunwyd arnynt ar waith.”
Dewch i’r cyfarfod
Mae’r cyfarfodydd hyn yn agored i’r cyhoedd, felly beth am fynd draw os gewch chi gyfle?
Dywed Mr O’Keeffe: “Mae’r pwyllgor yn edrych ar faterion difrifol, ond nid yw’r cyfarfodydd yn frawychus nac yn orffurfiol. Rydym yn croesawu aelodau’r cyhoedd i fod yn bresennol.”
Oes gennych chi ddiddordeb? Cynhelir y cyfarfod ddydd Iau, 19 Rhagfyr yn Neuadd y Dref, Wrecsam. Bydd yn dechrau am 4pm.