Mae economi’r nos wastad wedi bod yn ffordd wych i gymdeithasu gyda ffrindiau, a chwrdd â phobl newydd yn Wrecsam.
Ond, os wyt ti dan oed ac yn trio mynd i mewn i dafarn neu glwb yn defnyddio cerdyn adnabod ffug neu un rhywun arall, gall y staff ar y drws gadw’r cerdyn adnabod a gwrthod mynediad i ti.
Mae’r cerdyn wedyn yn cael ei anfon yn ôl i’r asiantaeth ddyroddi gan roi gwybod iddyn nhw bod y cerdyn wedi’i ddefnyddio’n dwyllodrus, a bydd perchennog y cerdyn yn gorfod gwario arian neu ail-ymgeisio i gael cerdyn newydd – ac ateb cwestiynau anodd iawn.
Llynedd bu i ni brosesu 70 o gardiau adnabod gwerth £2,080.00. Rhwng 1 a 10 Ionawr eleni rydym ni wedi prosesu 11 cerdyn adnabod gwerth £280 mewn costau adnewyddu i’r perchnogion cywir.
Meddai Roger Mapleson, Arweinydd Safonau Masnach a Thrwyddedu: “Rydym ni wedi bod yn rhedeg y cynllun cadw llwyddiannus ers 2018. Mae’r neges yn hollol glir…. os cewch eich dal yn ceisio mynd i mewn i adeilad trwyddedig yn defnyddio prawf adnabod sy’n perthyn i rywun arall neu brawf adnabod ffug, bydd yn cael ei gadw a byddwch yn cael eich troi i ffwrdd.
“Mae defnyddio dogfennau ffug yn fater difrifol, heb sôn am y costau posibl a’r anghyfleustra i’r unigolion os ydynt yn cael eu dal. Yn syml, peidiwch â gwneud hyn!”