Wrth i economi nos Wrecsam brysuro, mae nifer y bobl ifanc sy’n dod i mewn i ganol y dref yn cynyddu.
Mae’r busnesau lleol yn croesawu’r cynnydd hwn mewn masnach, ond mae pobl ifanc dan oed bob amser yn ceisio mynd i mewn i dafarndai a chlybiau’r dref gan ddefnyddio prawf adnabod ffug neu wedi’i fenthyg. Rŵan mae staff drysau yn cadw golwg i atal unrhyw un dan 18 oed rhag torri’r gyfraith trwy gymryd unrhyw brawf adnabod amheus oddi wrthynt a’u troi i ffwrdd.
Derbyniwch newyddion a gwybodaeth gan eich cyngor lleol – cofrestrwch i dderbyn bwletinau ar ffurf e-bost.
Dros y ddeufis diwethaf yn unig, mae 11 o basbortau a 73 o drwyddedau gyrru a chardiau dinasyddion wedi cael eu cadw a’u hanfon at yr Adran Safonau Masnach.
Mae’r dogfennau hyn yn cael eu dychwelyd at yr asiantaethau sy’n eu dosbarthu a’u hysbysu eu bod wedi cael eu defnyddio’n dwyllodrus. Mae hyn yn arwain at gost o ryw £3235 y bydd yn rhaid ei wario eto i gael prawf adnabod newydd yn ogystal â chwestiynau anodd i berchennog y ddogfen.
Dywedodd Roger Mapleson, Arweinydd Safonau Masnach a Thrwyddedu, “Mae’r neges yn hollol glir…. os cewch eich dal yn ceisio mynd i mewn i adeilad trwyddedig yn defnyddio prawf adnabod sy’n perthyn i rywun arall neu brawf adnabod ffug, bydd yn cael ei gadw a byddwch yn cael eich troi i ffwrdd.
“Mae defnyddio dogfen adnabod ffug yn fater difrifol ac mae’r gost a’r anghyfleustra os cewch eich dal yn sylweddol. Peidiwch!”
Derbyniwch ein prif straeon dros e-bost.
TANYSGRIFWYCH