Daeth Ymddiriedolaeth y Groes Fictoria, elusen fach sy’n rhoi ei hamser i lanhau ac adfer cerrig beddi a chofebau y sawl sydd wedi derbyn y Groes Fictoria a staff milwrol eraill i Wrecsam am y tro cyntaf yn 2023 i adfer bedd Percy Whelton MC.
Gwnaethant ddychwelyd yn ddiweddar i lanhau cofeb i David Lord VC sydd gyferbyn â chofeb y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig. Fel rhan o’r cynllunio, gwnaethant ychwanegu’r gofeb Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig ynghyd ag adfer cofeb Uwchgapten Guy Egon Rene de Miremont DSO MC a’r Brigadydd Cyffredinol Robert Henry William Dunn hefyd o’r FfBC. Mae’r ddwy gofeb hyn ym mynwent Wrecsam yn agos at Percy Whelton MC.
Ar ôl cyrraedd, roeddent wedi nodi dwy gofeb filwrol arall cysylltiedig â’r FfBC yn y fynwent a gyda chaniatâd tîm y fynwent, glanhawyd y rhain hefyd.
Glanhaodd y tîm y canlynol i gyd:
Cofeb David Lord VC
Uwchgapten Guy Egon Rene de Miremont DSO MC
Brigadydd Cyffredinol Robert Henry William Dunn
Siryf Meistr Ardal JC Widenbar
Corporal Thomas Bowman
Cofeb FfBC
Cofeb D-Day
Cofeb Rhyfel y Falklands
Cofeb Burma
Cofeb Rhyfel Corea
Ar y ffordd i Wrecsam, gwnaethant hefyd lanhau carreg bedd Ernest Egerton VC a’r gofeb rhyfel yn eglwys Forsbrook yn Blythe Bridge.
Dymuna’r sefydliad bwysleisio eu bod ond yn defnyddio offer glanhau â stêm arbenigol i amddiffyn y garreg (dim cemegau na chwistrellu â dŵr a allai ddifrodi’r cofebau) ac nid ydynt yn codi tâl am unrhyw waith. Fodd bynnag, croesewir rhoddion bob amser drwy eu tudalen wefan mae ‘na linc i JustGiving
Dywedodd y Cynghorydd Beverley Parry-Jones, Cefnogwr y Lluoedd Arfog, Cyngor Wrecsam: “Ymwelais ag aelodau o’r elusen ar eu hymweliad mwyaf diweddar â Wrecsam i ddiolch iddynt ar ran Wrecsam am eu gwaith. “Mae ein dyled yn enfawr i’n harwyr rhyfel ac mae sefydliadau fel Ymddiriedolaeth y Groes Fictoria sy’n gweithio’n ddiflino i’w cadw’n fyw yn y cof yn amhrisiadwy i sicrhau ein bod yn cofio’r sawl wnaeth yr aberth mwyaf.”