Hoffwn glywed gennych chi am ddyfodol ein gwasanaeth llyfrgell symudol a dros dro.
Yn ôl yn Hydref 2020, cafodd ein llyfrgell symudol ei newid i wasanaeth ‘dros dro’ yn ystod Covid, yn ogystal â gwasanaeth archebu a danfon uniongyrchol.
Roedd y gwasanaeth dros dro yn cynnwys llyfrgell yn cael ei sefydlu mewn nifer o leoliadau ar draws y fwrdeistref sirol ar ddyddiau penodol.
Roedd y gwasanaeth danfon yn galluogi pobl mewn ardaloedd penodol i archebu llyfrau i gael eu danfon i’w cartrefi.
Cafodd y rhain eu cyflwyno i ddarparu dewisiadau mwy diogel a hygyrch ar gyfer pobl leol yn ystod y pandemig, ac maent wedi bod yn boblogaidd iawn.
Rŵan, rydym yn cynnig parhau gyda’r gwasanaeth dros dro mewn cymunedau gyda lleoliadau addas, a chynnig gwasanaeth archebu a danfon i breswylwyr nad oes ganddynt gangen llyfrgell sy’n hygyrch gyda chludiant cyhoeddus.
Yn ogystal â chynnig dewis mwy diogel a hyblyg, rydym yn credu y bydd y cynnig yn helpu i ddarparu gwasanaeth mwy glân a gwyrdd, a fydd yn lleihau milltiroedd ar y ffordd ac allyriadau carbon yn y fwrdeistref sirol.
Fodd bynnag, mae’n bwysig iawn ein bod yn ymgynghori gyda phobl leol yn gyntaf. Os nad ydych wedi gwneud yn barod, ewch i roi eich barn trwy gymryd rhan yn ein arolwg ar-lein.
Dylai gymryd oddeutu 10 munud i’w lenwi, a gwerthfawrogwn eich adborth yn fawr.
Dywedodd y Cyng John Pritchard, Aelod Arweiniol Pobl – Gwasanaethau Ieuenctid a Gwrthdlodi: ‘Mae COVID wedi ein gorfodi i feddwl am ffyrdd newydd a chreadigol o ddarparu nifer o’n gwasanaethau. Roedd y Llyfrgell Dros Dro a gwasanaethau Archebu a Danfon Uniongyrchol yn golygu y gallem fynd â’r gwasanaeth llyfrgell allan i gymunedau mwy anghysbell mewn ffordd ddiogel.
‘Nawr hoffem glywed beth yw eich barn am sut mae’r gwasanaeth hwn wedi ei ddarparu ac os nad ydych chi wedi’i ddefnyddio, hoffem wybod a fyddai hyn yn rhywbeth yr hoffech ei weld yn dod i’ch cymuned chi.
‘Fel gyda phob ymgynghoriad, po fwyaf o bobl sy’n rhannu eu barn gyda ni, y mwyaf tebygol y byddwn ni’n deall sut rydych chi’n teimlo, felly rwy’n annog cynifer ag sy’n bosibl o breswylwyr i gymryd rhan. Os oes gan unrhyw un ymholiadau am y gwasanaeth hwn, gofynnwch i staff y llyfrgell sydd ar gael i egluro.’
Bydd yr ymgynghoriad yn cael ei gynnal tan Awst 27.
Cliciwch yma i fynd i’r ymgynghoriad.
Mae gwneud apwyntiad i dderbyn brechlyn Covid-19 yn haws nag erioed o’r blaen.
TREFNWCH APWYNTIAD AR-LEIN