Mae ein gwasanaethau Gofal Cymdeithasol yn lansio ymgyrch rhoi dillad y gaeaf hwn yn dilyn llwyddiant ysgubol eu hapêl yn ystod yr haf.
Apêl Cotiau Gaeaf
Yn dilyn y Siop Gwisg Ysgol Ail-law dros yr haf, mae Tîm yr Hwb Lles wrth eu bodd o lansio eu Hapêl Cotiau Gaeaf.
Derbyniodd teuluoedd gefnogaeth dros yr haf, a gyda’i gilydd, ynghyd â’r tîm, fe wnaethon nhw achub 411 o eitemau o safleoedd tirlenwi – cyflawniad cymunedol gwych!
Wrth i’r misoedd oerach agosáu, rydyn ni’n gofyn am eich help unwaith eto. Ystyriwch roi cotiau gaeaf glân o ansawdd da i blant rhwng 4 ac 16 oed.
Bydd eich haelioni yn helpu i gadw plant lleol yn gynnes y gaeaf hwn tra’n parhau i amddiffyn ein planed.
Gellir gollwng rhoddion yn yr Hwb Lles – mae pob côt yn gwneud gwahaniaeth!
Dywedodd y Cynghorydd Rob Walsh, aelod arweiniol dros Wasanaethau Plant a Theuluoedd, “Hoffwn longyfarch tîm ein Hwb Lles am eu gwaith rhagorol dros yr haf wrth gael effaith mor gadarnhaol gyda’r Siop Gwisg Ysgol Ail-law. Does gen i ddim amheuaeth y bydd yr Apêl Cotiau Gaeaf yr un mor hynod lwyddiannus. Mae ysbryd cymunedol gwych gennym yma yn Wrecsam, sy’n helpu ymgyrchoedd fel hyn i ffynnu.”


