Ymgyrch flynyddol Y Rhwydwaith Maethu yw’r Bythefnos Gofal Maeth, gyda’r nod o godi proffil maethu a dangos sut y mae gofal maeth yn trawsnewid bywydau. Hon hefyd yw ymgyrch recriwtio gofalwyr maeth fwyaf y DU.

Yn Wrecsam, byddwn yn cynnal digwyddiad gwybodaeth a drama yn Nhŷ Pawb ddydd Mawrth 14 Mai, 3.30-7pm.  Mae croeso i unrhyw un alw draw i’r digwyddiad hwn, sydd am ddim, i ddysgu mwy am ofalwyr maeth a sut y gallwch chithau ddod yn ofalwr maeth eich hun.

ALLECH CHI WNEUD GWAHANIAETH I FYWYD PLENTYN SYDD MEWN GOFAL?

Bydd gweithwyr cymdeithasol ac arbenigwyr wrth law i ateb eich cwestiynau yn ogystal â gofalwyr maeth, all rannu eu profiadau ymarferol o faethu plant.

Rhwng 13 a 27 Mai, bydd Pythefnos Gofal Maeth yn gofyn i’r bobl hynny sydd wedi bod yn ystyried maethu am beth amser i ddod i weld beth y gallent ei gynnig i blant sydd angen gofal a chefnogaeth.

Bydd cyfle hefyd i unigolion sydd heb ystyried maethu o’r blaen gymryd mantais o’r cyngor sydd ar gael gan swyddogion hyfforddedig a chyn-ofalwyr.

Cynhelir y pythefnos mewn cydweithrediad â’r Rhwydwaith Maethu, sef elusen flaenllaw sy’n hyrwyddo ymwybyddiaeth o faethu.

Meddai’r Cynghorydd Bill Baldwin, Aelod Arweiniol y Gwasanaethau Plant: “Er bod maethu yn rhywbeth sy’n gofyn am lefel uchel o ymrwymiad a chyfrifoldeb, rydym eisiau dangos i bobl sydd o bosib yn eu diystyru eu hunain am nad ydynt yn credu fod ganddynt ddigon o amser neu adnoddau, y gallai maethu fod o fewn eu gallu.

“Nid yw bod yn ofalwr maeth yn hawdd o bell ffordd, ond gydag ychydig o amser ac ymdrech, gallwch wneud gwahaniaeth enfawr i fywyd plentyn mewn gofal.”

I gael rhagor o wybodaeth am y digwyddiad neu i ddysgu mwy am sut i ddod yn ofalwr maeth, cysylltwch â:

Rhif ffôn: 01978 295316

Cyfeiriad e-bost: fis@wrexham.gov.uk

Ai Maethu yw’r dewis i chi?

DYSGWCH FWY AM FABWYSIADU