Mae Credu yn galw ar fusnesau, ysgolion, colegau, prifysgolion a chymunedau ar draws y rhanbarth i gynorthwyo i dynnu sylw at ymroddiad ac ymrwymiad dros 2,400 o ofalwyr ifanc yn Wrecsam, Conwy, Sir Ddinbych, Powys a Cheredigion.
Cyn Diwrnod Gweithredu Gofalwyr Ifanc ddydd Mercher 13 Mawrth – wedi’i drefnu gan Ymddiriedolaeth Gofalwyr – maent yn galw ar fwy o sefydliadau i nodi adnoddau dwyieithog gan gynnwys cerdyn adnabod yn cynnig disgownt, cynllun carlam a chynigion ar gyfer pobl ifanc sydd â chyfrifoldeb gofalu di-dâl am aelod o’r teulu neu anwyliaid, yn aml am hyd at 50 awr yr wythnos yn ychwaneg at eu gwaith neu astudiaethau.
Mae’r apêl ddiweddaraf, o’r enw Dyfodol Teg i Ofalwyr Ifanc, hefyd eisiau i leoliadau addysg ddangos mwy o empathi a dealltwriaeth o’r heriau y maent yn eu hwynebu a llunio datrysiadau i liniaru pwysau a chreu amgylchedd dysgu cadarnhaol.
Dywedodd Cydlynydd Gofalwyr Ifanc, Sally Duckers bod Prifysgol Bangor yn enghraifft dda i sefydliadau eraill, wedi iddynt wahodd gofalwyr sy’n oedolion ifanc i fynychu cwrs preswyl tra’n cydnabod y rhwystrau y maent yn eu hwynebu wrth geisio derbyn addysg uwch, gan eu bod fel arfer yn byw mewn ardaloedd o amddifadedd uchel, o gymharu â’u cyfoedion.
“Mae gofalwyr ifanc yn dweud wrthym yn gyson eu bod yn dymuno i’r ysgolion eu deall yn well, ac mae hynny’n ein digalonni,” meddai Sally.
“Mae Credu wedi bod yn gweithio ar raglen o adnoddau i fynd i’r afael â hynny, sy’n cynnwys dau gynllun gwers dwyieithog yn rhad ac am ddim ar gyfer cyfnod allweddol dau a thri sy’n dilyn y Cwricwlwm i Gymru a hyrwyddo Cerdyn Adnabod Gofalwyr Ifanc, sy’n ceisio cefnogaeth ein cymunedau.
“Mae rhai busnesau ac atyniadau eisoes wedi cytuno, ond hoffem pe bai yn fwy amlwg a chyffredin yn y cymunedau yr ydym yn gweithio ynddynt. Rydym yn gobeithio y bydd eraill yn cynnig cefnogaeth i ofalwyr ifanc o ystyried y rhwystrau economaidd a chymdeithasol y maent yn eu hwynebu’n aml.”
Ychwanegodd: “Mae cael cefnogaeth Prifysgol Bangor ac addysgwyr eraill yn allweddol, gan ei fod yn rhoi rhywbeth i anelu ato, llwybr i’w gyrfaoedd yn y dyfodol.
“Dengys ystadegau gan UCAS bod gofalwyr ifanc yn tueddu i wneud cais am brifysgolion o fewn 30 munud o’u cartrefi, felly mae cael darparwyr Addysg Uwch ac Addysg Bellach yng Ngogledd Cymru yn rhoi cymaint o gefnogaeth a dealltwriaeth yn allweddol – felly diolch iddynt am hynny.”
Dywedodd Lowrian Williams, Swyddog Cyfranogiad Ehangach ar gyfer Recriwtio a Derbyniadau’r DU ym Mhrifysgol Bangor, bod y sefydliad wedi “ymroi” i gefnogi ein gofalwyr ifanc yng Nghymru ac yn falch o gefnogi’r ymgyrch.
“Uchafbwynt i ni yw ein Cwrs Preswyl i Ofalwyr Ifanc, sy’n digwydd bob Pasg”, meddai Lowrian.
“Gyda chefnogaeth gan ein partneriaid ym Mhartneriaeth Ymgyrraedd yn Ehangach Gogledd Cymru a Chanolbarth Cymru, rydym yn gwahodd gofalwyr ifanc o bob cwr o Gymru, ac yn ystod eu cyfnod ar y campws, maent yn profi blas o fywyd yn y brifysgol, cysylltu â’n staff a myfyrwyr cyfeillgar, ac yn cymryd rhan mewn gweithdai a sgyrsiau academaidd.
“Nid cyfnod i gael seibiant o ofalu’n unig ydyw; mae’n gyfle iddynt ganolbwyntio ar eu nodau a’u dyheadau eu hunain ac rydym yn edrych ymlaen at eu croesawu eto yn ystod y Pasg.”
Ychwanegodd: “Mae gofalwyr ifanc yn dod ag ymagwedd unigryw a chyfoethog i’n cymuned o fyfyrwyr yn y brifysgol. Mae eu gwydnwch, angerdd, a phrofiadau bywyd amrywiol yn cyfrannu’n sylweddol at y gymuned academaidd a thu hwnt.”
Mae Eve Lambrick, Cydlynydd Codi Ymwybyddiaeth Credu, yn gobeithio gweld mwy o bobl yn dod yn ‘Gefnogwyr’ ar gyfer gofalwyr ifanc i sicrhau nad ydynt yn colli allan ar weithgareddau, anturiaethau neu gyfleoedd am swyddi oherwydd diffyg cludiant, diffyg arian neu ddiffyg cysylltiadau cymdeithasol.
“Rydym yn clywed sawl stori llawn ysbrydoliaeth lle bo cefnogaeth gadarnhaol mewn modd amserol wedi golygu y bu modd i ofalwyr ifanc ffynnu a datblygu sgiliau ar ôl derbyn platfform i lwyddo,” ychwanegodd.
“Hoffem weld busnesau yn enwedig yn nodi cyfleoedd ar gyfer gofalwyr ifanc, i roi llais iddynt a chyfleoedd na fyddent yn credu y byddent yn bosibl.
“Dyma’r gymuned yr ydym am ei datblygu fel bod ganddynt oll sgiliau y gellir eu trosglwyddo, aeddfedrwydd a gwydnwch i ffynnu – bydd hynny’n rhoi dyfodol teg iddynt.”
I gael mynediad at becyn adnoddau Credu, ewch i www.padlet.com/creducarers/credu-young-carers-resources-u0pc4j2tuz8vzovv.
I gael rhagor o wybodaeth, anfonwch e-bost at carers@credu.cymru neu sally@credu.cymru neu ewch i https://rb.gy/n1xur7. Fel arall, anfonwch e-bost at admin@credu.cymru
Mae Credu’n cefnogi gofalwyr ifanc yn Wrecsam, Conwy, Sir Ddinbych (WCD – sef ‘Wicked Young Carers’), Ceredigion a Phowys. Credu yw’r gwasanaeth a gomisiynwyd ym mhob un o’r siroedd hyn ac mae’n gweithio’n agos gyda’r awdurdodau lleol a’r Byrddau Iechyd i wella bywydau gofalwyr ifanc.
Ymddiriedolaeth Gofalwyr yw elusen yn y DU sy’n gweithio i drawsnewid bywydau gofalwyr di-dâl ar draws y DU. Mae’n llunio partneriaethau gyda’r rhwydwaith o sefydliadau gofalwyr lleol i ddarparu cyllid a chefnogaeth, darparu rhaglenni arloesol ac yn seiliedig ar dystiolaeth, a chodi ymwybyddiaeth a dylanwadu ar bolisi.
Fyny Fry i Dri o Ddisgyblion Ysgol Clywedog!(wrecsam.gov.uk)