Mae ymgyrch wedi ei lansio ar draws Cymru er mwyn targedu gyrwyr sy’n peryglu bywydau drwy ddefnyddio’i ffôn symudol wrth yrru.
Heddlu De Cymru sy’n arwain yr ymgyrch, ac mae’r heddluoedd wedi lansio ymgyrch cyfryngau cymdeithasol heddiw (dydd Llun 9 Mawrth) i atgoffa gyrwyr o’r peryglon sy’n gysylltiedig â defnyddio ffôn symudol wrth yrru, a’u hannog i roi gwybod am yrwyr sy’n defnyddio eu ffôn wrth y llyw.
Bydd pob un o’r pedwar heddlu yng Nghymru yn canolbwyntio ar rai o’r prif resymau sydd gan bobl dros ddefnyddio eu ffonau wrth yrru: gyrru neges destun, ffonio, defnyddio dyfais llywio â lloeren, defnyddio cyfryngau cymdeithasol a gwrando ar gerddoriaeth. Byddant hefyd yn cyflawni gweithgarwch wedi’i dargedu a fydd yn cynyddu presenoldeb pob heddlu o 16 Mawrth 2020 i 29 Mawrth 2020.
Nod yr ymgyrch yw atgoffa’r cyhoedd o’r cyfreithiau sy’n ymwneud â gafael mewn ffôn wrth yrru a’u hannog i roi gwybod am yrwyr peryglus. Hyd yn oed os ydych wedi stopio wrth oleuadau traffig neu’n ciwio mewn traffig, rydych yn dal i dorri’r gyfraith wrth ddefnyddio ffôn symudol â llaw wrth y llyw.
Mae'n anghyfreithlon dal ffôn symudol wrth yrru. Peidiwch ag achosi gwrthdrawiad. ???? ????
Rydych tua chwe gwaith yn fwy tebygol o fod yn rhan o wrthdrawiad os ydych yn defnyddio eich ffôn symudol wrth yrru nag y byddech pe baech yn gyrru o dan ddylanwad alcohol #CadwCymruYnDdiogel pic.twitter.com/mynZVLomEF— Cyngor Wrecsam (@cbswrecsam) March 11, 2020
Dywedodd Prif Uwcharolygydd Jane Banham: “Mae nifer cynyddol o yrwyr yn dewis defnyddio eu ffonau symudol wrth yrru er mwyn ffonio, tecstio neu edrych ar y cyfryngau cymdeithasol hyd yn oed.
“Mae’n anghyfreithlon dal ffôn symudol wrth yrru. Mae’r neges yn glir. Nid yw’n werth y drafferth.”
Os byddwch yn amau bod rhywun yn gyrru wrth ddefnyddio ffôn symudol â llaw, rhowch wybod ar 101, neu 999 mewn argyfwng neu Taclo’r Tacle yn ddienw ar 0800 555 111.
Os oes gennych dystiolaeth fideo neu ffotograffig a gafwyd yn gyfreithlon ac yn ddiogel, gallwch ei chyflwyno’n uniongyrchol i’r heddlu drwy ymgyrch #OpSnap ar wefan Gan Bwyll.
Cofrestrwch i dalu i’ch bin gwyrdd gael ei wagio.
RYDW I EISIAU TALU RŴAN