Ddydd Sadwrn, 24 Mehefin, bydd pobl ifanc Wrecsam a’u Gweithwyr Ieuenctid yn gorymdeithio o gwmpas canol y ddinas i ddathlu Wythnos Gwaith Ieuenctid.
Nod yr Wythnos Gwaith Ieuenctid yw gwella dealltwriaeth pobl o waith ieuenctid a’r hyn mae’n ei olygu i bobl ifanc.
Bydd staff y Gwasanaeth Ieuenctid a’r bobl ifanc yn cwrdd ar Sgwâr y Frenhines am 11am a bydd croeso i unrhyw un ymuno efo ni.
Bydd yr orymdaith yn dechrau am 11.30 ac yn cyrraedd yn ôl ar Sgwâr y Frenhines am 12.15pm. Ar y diwrnod mi fydd yna stondinau marchnad a gweithgareddau ar y sgwâr ac mi fydd yna hefyd fan arlwyo yn gweini pitsas a sglodion am ddim i bawb sy’n cymryd rhan yn yr orymdaith.
Llwybr yr Orymdaith
O Sgwâr y Frenhines byddwn yn gorymdeithio ar hyd Stryt y Frenhines ac yna’n troi i Stryt Henblas. Wedyn mi fyddwn ni’n troi i’r dde i Stryt Caer ac i’r dde eto i’r Stryd Fawr, cyn troi i Stryt yr Hôb a Stryt Argyle ac yn ôl i Neuadd y Dref.