Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Ymunwch â ni ar gyfer Diwrnod Lluoedd Arfog Cymru yn Wrecsam 18 Mehefin 10 – 4
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > Ymunwch â ni ar gyfer Diwrnod Lluoedd Arfog Cymru yn Wrecsam 18 Mehefin 10 – 4
Y cyngor

Ymunwch â ni ar gyfer Diwrnod Lluoedd Arfog Cymru yn Wrecsam 18 Mehefin 10 – 4

Diweddarwyd diwethaf: Mehefin 17, 2022 9:13 am
Rhannu
Darllen 4 funud
Armed Forces Day
RHANNU

Rydym yn edrych ymlaen at gynnal Diwrnod Lluoedd Arfog Cymru eleni ac mae cynlluniau ar y gweill ar gyfer diwrnod ardderchog o ddathlu i’r teulu oll.

Cynnwys
  • Llwybr Gorymdaith Diwrnod Lluoedd Arfog Cymru
  • Adloniant ar y Bandstand
  • Y gornel rhwng Stryt yr Hôb a Stryt Henblas:

Cynhelir y digwyddiad yn Llwyn Isaf a Sgwâr y Frenhines a bydd llawer o bethau i’w gweld a’u gwneud, gan ddechrau gyda gorymdaith o 300 o Fodhyfryd am 10.30.  Dan arweiniad Band y Cymry Brenhinol, yng nghwmni Mark Holland, Uwch Gapten Milfeddygon Gwarchodlu Dragŵn y Frenhines gyda’r masgot catrodol L.Cpl Jones, Merlen Fynydd Gymreig a’r Rhingyll Mark Jackson, Uwchgapten yr Afr, y Cymry Brenhinol a Shenkin IV, yr afr gatrodol. Bydd gweddill yr orymdaith yn gorymdeithio’n agos y tu ôl iddynt.

Derbyniwch newyddion a gwybodaeth gan eich cyngor lleol – cofrestrwch i dderbyn bwletinau ar ffurf e-bost.

Llwybr Gorymdaith Diwrnod Lluoedd Arfog Cymru

Byddant yn gadael Bodhyfryd ac yn gorymdeithio ar hyd Stryt Caer, y Stryt Fawr, Stryt yr Hôb, Stryt y Syfwr, Stryt y Lampint, i’r chwith o dan y bwa ac i Lwyn Isaf, lle byddant yn aros ac yn sefyll yn unionsyth ar gyfer y seremoni agoriadol swyddogol. Rhoddir areithiau gan y Maer Wrecsam, y Cynghorydd Brian Cameron, a fydd yn croesawu pawb i Ddiwrnod y Lluoedd Arfog; Hyrwyddwr y Lluoedd Arfog, a fydd yn diolch i Gymuned y Lluoedd Arfog; a’r Brigadydd Andrew Dawes CBE, Comander Brigâd 160 y Milwyr Traed (Cymru) a phennaeth y Fyddin yng Nghymru. Dilynir hyn gan yr Anthemau Cenedlaethol.

Bydd awyrennau bomio Lancaster o Hediad Coffa Brwydr Prydain yn hedfan dros yr ardal am 13:38.

Wales Armed Forces Day

Llun trwy garedigrwydd Hediad i Gofio Brwydr Prydain Llu Awyr Brenhinol Cymru

Drwy gydol y dydd, bydd pawb yn rhydd i gael mwynhau’r arddangosfeydd, sgwrsio gyda chynrychiolwyr y tri llu arfog a gweld yr hyn sydd ganddynt i’w arddangos. Bydd lluniaeth ar gael, gyda diodydd alcoholaidd a dialcohol, ynghyd ag adloniant o’r bandstand (gweler yr amserlen isod).

Adloniant ar y Bandstand

  • 11:30 – 12:15 – Band Glofa Ifton
  • 12:15 – 13:00 – Côr Meibion y Rhos
  • 13:00 – 13:45 – Band y Cymry Brenhinol
  • 13:45 – 15:45 – The Big Beat

Y gornel rhwng Stryt yr Hôb a Stryt Henblas:

  • 11:00 – 12:00 Band Cadetiaid yr Awyrlu Brenhinol
  • 12:00 – 12:30 Corfflu Drymiau Gwirfoddolwyr y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig
  • 12:30 – 13:30 Band Llu Cadetiaid y Fyddin Gwent a Phowys
  • Am 3:45 ceir areithiau’r seremoni gloi gan y Maer, y Cynghorydd Brian Cameron, a

Chomodor yr Awyrlu Adrian (Dai) Williams OBE ADC, Swyddog Awyr Cymru yr Awyrlu Brenhinol, sydd yn wreiddiol o Ddinbych. Bydd ‘Seremoni Machlud Haul’ fer gan fand y Cymry Brenhinol, a byddant yn gorymdeithio oddi yno.

Dywedodd y Cynghorydd Beverley Parry Jones, Hyrwyddwr y Lluoedd Arfog, “Bydd yn ddigwyddiad i’w gofio ac rwyf yn edrych ymlaen yn fawr at gymryd rhan a chael cwrdd â’n lluoedd arfog a chyn-filwyr.

“Rwy’n gobeithio y bydd pawb yn mwynhau’r digwyddiad ac yn ymuno â mi i ddiolch yn bersonol i’n lluoedd arfog a’u teuluoedd am eu hymrwymiad a’u hymroddiad i ddyletswydd i sicrhau ein diogelwch.”

Os ydych yn teithio o’r tu allan i Wrecsam, gallwch ddysgu mwy am barcio ceir yma.

Derbyniwch ein prif straeon dros e-bost.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”https://public.govdelivery.com/accounts/UKWCBC_CY/subscriber/new?topic_id=UKWCBC_CY_5″]TANYSGRIFWYCH[/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol g Gwaredwch â batris a chaniau nwy mewn modd cyfrifol
Erthygl nesaf Two plastic trigger-spray bottles Ailgylchu plastig, caniau, papur a chardbord yn Wrecsam

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Annog trigolion Wrecsam i ofalu rhag masnachwyr twyllodrus yn dilyn storm Austen
Annog trigolion Wrecsam i ofalu rhag masnachwyr twyllodrus yn dilyn storm Austen
Pobl a lle
Hydref 27, 2026
Yr Actor Cymreig Rhys Ifans yn cefnogi cais Wrecsam i fod yn Ddinas Diwylliant y DU yn 2029
Yr Actor Cymreig Rhys Ifans yn cefnogi cais Wrecsam i fod yn Ddinas Diwylliant y DU yn 2029
Pobl a lle Digwyddiadau
Hydref 27, 2026
Wrecsam yn dathlu llwyddiant Aur yng ngwobrau Cymru yn ei Blodau 2026
Wrecsam yn dathlu llwyddiant Aur yng ngwobrau Cymru yn ei Blodau 2026
Y cyngor Digwyddiadau Pobl a lle
Hydref 26, 2026
All Saints School fundraising activities
Disgyblion Ysgol Gynradd yr Holl Saint yn rhedeg, yn pobi ac yn gwneud gwahaniaeth at achos da
Pobl a lle Busnes ac addysg
Hydref 26, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

National Adoption Week 2026
Y cyngorPobl a lle

Wythnos Mabwysiadu Genedlaethol 2026 – astudiaeth achos gan Wasanaeth Mabwysiadu Gogledd Cymru

Hydref 23, 2026
Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau gwastraff ac ailgylchu yn Wrecsam
Y cyngor

Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau gwastraff ac ailgylchu yn Wrecsam

Hydref 9, 2026
Cloudy sky
Y cyngorArall

Rhybudd tywydd – Storm Austen

Hydref 22, 2026
Cadwch yn ddiogel yn ystod tymor tân gwyllt: Dewiswch ddigwyddiadau sydd wedi'u trefnu
Y cyngor

Cadwch yn ddiogel yn ystod tymor tân gwyllt: Dewiswch ddigwyddiadau sydd wedi’u trefnu

Hydref 20, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English