Dewch draw i gefnogi Scotty’s Little Soldiers – elusen sy’n helpu plant a phobl ifanc ledled y DU…
Mae pobl yn Wrecsam yn cael eu hannog i ddod draw i forio canu pan fydd y ddinas yn cynnal ei Gwasanaeth Carolau Cymuned Lluoedd Arfog cyntaf ym mis Rhagfyr!
Bydd y digwyddiad rhad ac am ddim yn cael ei gynnal yn Eglwys San Silyn ddydd Mawrth, 5 Rhagfyr gan ddechrau am 7pm, a bydd rhoddion yn mynd i elusen arbennig iawn o’r enw Scotty’s Little Soldiers.
Dywedodd y Cynghorydd Beverley Parry Jones, Cefnogwr y Lluoedd Arfog Cyngor Wrecsam: “Mae Scotty’s Little Soldiers yn elusen anhygoel y cafodd ei hysbrydoli gan brofiad gweddw, sef Nikki Scott, a gollodd ei gŵr yn Affganistan yn 2009.
“Mae’n helpu plant a phobl ifanc sydd wedi colli rhiant a wasanaethodd yn lluoedd arfog Prydain, a bydd yr holl roddion yn y gwasanaeth carolau yn mynd tuag at gefnogi’r gwaith anhygoel maen nhw’n ei wneud.
“Rydym ni mor falch o gefnogi’r elusen ac yr ydym ni’n gobeithio y bydd pobl Wrecsam yn dangos eu cefnogaeth ar 5 Rhagfyr drwy ddod draw i’r gwasanaeth carolau yn San Silyn. Croeso i bawb!”
Bydd y gwasanaeth yn cynnwys Band Tywysog Cymru, sef un o 14 o fandiau Byddin Prydain.
Mae’r band wedi’i leoli yn Aberhonddu, ac mae’r cerddorion wedi teithio llawer gan berfformio yn Yr Almaen, Cyprus, Dubai, Kuwait, Sudan ac Ynysoedd Falkland ac yn rownd derfynol Cwpan FA Lloegr yn stadiwm Wembley.
Bydd côr Ysgol Uwchradd Sant Joseff hefyd yn perfformio ac yn lledaenu hwyl yr ŵyl â repertoire hyfryd o ganeuon Nadoligaidd.
Dywedodd y Cynghorydd Parry-Jones: “Mae gan Wrecsam gysylltiadau cryf â’r lluoedd arfog, a bydd y gwasanaeth carolau yn ffordd wych o ddathlu’r Nadolig a rhoi teyrnged i gyn-filwyr a’r dynion a’r merched anhygoel sy’n gwasanaethu ein gwlad.
“Mae’n argoeli i fod yn noson hyfryd yn llawn ysbryd a cherddoriaeth y Nadolig, a byddem ni wrth ein bodd yn gweld cymaint o aelodau o’r cyhoedd yno ag sy’n bosibl.
“Dewch draw i helpu i’w gwneud hi’n noson wych.”