Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Ymunwch â ni ar gyfer Gwasanaeth Carolau Cymuned Lluoedd Arfog Wrecsam cyntaf erioed ar 5 Rhagfyr
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Ymunwch â ni ar gyfer Gwasanaeth Carolau Cymuned Lluoedd Arfog Wrecsam cyntaf erioed ar 5 Rhagfyr
Pobl a lle

Ymunwch â ni ar gyfer Gwasanaeth Carolau Cymuned Lluoedd Arfog Wrecsam cyntaf erioed ar 5 Rhagfyr

Diweddarwyd diwethaf: Tachwedd 27, 2023 3:37 pm
Rhannu
Darllen 3 funud
Christmas carols
RHANNU

Dewch draw i gefnogi Scotty’s Little Soldiers – elusen sy’n helpu plant a phobl ifanc ledled y DU…

Mae pobl yn Wrecsam yn cael eu hannog i ddod draw i forio canu pan fydd y ddinas yn cynnal ei Gwasanaeth Carolau Cymuned Lluoedd Arfog cyntaf ym mis Rhagfyr!

Bydd y digwyddiad rhad ac am ddim yn cael ei gynnal yn Eglwys San Silyn ddydd Mawrth, 5 Rhagfyr gan ddechrau am 7pm, a bydd rhoddion yn mynd i elusen arbennig iawn o’r enw Scotty’s Little Soldiers.

Dywedodd y Cynghorydd Beverley Parry Jones, Cefnogwr y Lluoedd Arfog Cyngor Wrecsam: “Mae Scotty’s Little Soldiers yn elusen anhygoel y cafodd ei hysbrydoli gan brofiad gweddw, sef Nikki Scott, a gollodd ei gŵr yn Affganistan yn 2009.

“Mae’n helpu plant a phobl ifanc sydd wedi colli rhiant a wasanaethodd yn lluoedd arfog Prydain, a bydd yr holl roddion yn y gwasanaeth carolau yn mynd tuag at gefnogi’r gwaith anhygoel maen nhw’n ei wneud.

“Rydym ni mor falch o gefnogi’r elusen ac yr ydym ni’n gobeithio y bydd pobl Wrecsam yn dangos eu cefnogaeth ar 5 Rhagfyr drwy ddod draw i’r gwasanaeth carolau yn San Silyn. Croeso i bawb!”

Bydd y gwasanaeth yn cynnwys Band Tywysog Cymru, sef un o 14 o fandiau Byddin Prydain.

Mae’r band wedi’i leoli yn Aberhonddu, ac mae’r cerddorion wedi teithio llawer gan berfformio yn Yr Almaen, Cyprus, Dubai, Kuwait, Sudan ac Ynysoedd Falkland ac yn rownd derfynol Cwpan FA Lloegr yn stadiwm Wembley.

Bydd côr Ysgol Uwchradd Sant Joseff hefyd yn perfformio ac yn lledaenu hwyl yr ŵyl â repertoire hyfryd o ganeuon Nadoligaidd.

Dywedodd y Cynghorydd Parry-Jones: “Mae gan Wrecsam gysylltiadau cryf â’r lluoedd arfog, a bydd y gwasanaeth carolau yn ffordd wych o ddathlu’r Nadolig a rhoi teyrnged i gyn-filwyr a’r dynion a’r merched anhygoel sy’n gwasanaethu ein gwlad.

“Mae’n argoeli i fod yn noson hyfryd yn llawn ysbryd a cherddoriaeth y Nadolig, a byddem ni wrth ein bodd yn gweld cymaint o aelodau o’r cyhoedd yno ag sy’n bosibl.

“Dewch draw i helpu i’w gwneud hi’n noson wych.”

Rhannu
Erthygl flaenorol Codi’r Bar: Gwobr Gyntaf i Ganolfan Hamdden Wrecsam! Codi’r Bar: Gwobr Gyntaf i Ganolfan Hamdden Wrecsam!
Erthygl nesaf Taxi Gwiriwch fod y tacsi yr ydych yn mynd iddo yn gyfreithlon!

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Mayor attending the Taste of Nigeria Festival
Ymrwymiadau Maer Wrecsam – Hydref
Pobl a lle Arall
Hydref 21, 2026
Ysgol Fach, Llais Mawr: Disgyblion Pentre yn ymweld â Senedd y DU
Ysgol Fach, Llais Mawr: Disgyblion Pentre yn ymweld â Senedd y DU
Pobl a lle
Hydref 21, 2026
Llwyddiant Trawsnewid Trefi i Ragazzi
Llwyddiant Trawsnewid Trefi i Ragazzi
Busnes ac addysg Pobl a lle
Hydref 21, 2026
Datblygu arloesi ffresni bwyd
Datblygu arloesi ffresni bwyd
Busnes ac addysg
Hydref 20, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Ailgylchwch eich ceblau diangen ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol E-Wastraff 2026
DigwyddiadauDatgarboneiddio Wrecsam

Ailgylchwch eich ceblau diangen ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol E-Wastraff 2026

Hydref 13, 2026
Trigolion Rhos yn derbyn refeniw sylweddol
Pobl a lle

Trigolion Rhos yn derbyn refeniw sylweddol

Hydref 20, 2026
Meet the Supertrees event
Pobl a lleDatgarboneiddio WrecsamDigwyddiadau

Digwyddiad teuluol ‘Meet the Supertrees’ yng Nghanolfan Adnoddau Gwersyllt (28 Hydref)

Hydref 20, 2026
Byddwch yn ymwybodol o sgamiau’r Hydref hwn
Pobl a lle

Byddwch yn ymwybodol o sgamiau’r Hydref hwn

Hydref 20, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English