Mae pobl yn ymweld â llyfrgelloedd cyhoeddus fwy nag y maent yn ymweld â’r sinema, gigs byw, y theatr neu unrhyw un o’r 10 ymweliad twristaidd mwyaf poblogaidd yn y DU gyda’i gilydd, ac mae’r rhan fwyaf ohonynt rhwng 15 a 24 oed!
Os nad ydych yn un o’r 1.4 miliwn o bobl yng Nghymru sy’n aelod o’u llyfrgell leol, gwnewch yn siŵr eich bod yn ymweld â hi. Mae hi’n Wythnos y Llyfrgelloedd 2017 yr wythnos hon felly bydd digon yn digwydd.
GALLWCH GAEL NEWYDDION A GWYBODAETH AR UNWAITH GAN GYNGOR WRECSAM GYDA FY NIWEDDARIADAU.
Yr wythnos a drwy’r flwyddyn yng Nghyngor Bwrdeistref Wrecsam, gall plant ddod i Lyfrgell Rhos gyda’u plant 0 – 3 oed i gael hwyl, sgwrsio a chanu caneuon yn eu sesiwn Chatterbox bob dydd Gwener. Gwahoddir pobl sydd am gyflwyno Cymraeg i’w plant i Stori a Chân yn Rhos ar ddyddiau Mercher, tra gall plant 8 – 10 oed fwynhau ysgrifennu creadigol yn sesiwn arobryn ‘Books Inside Out’ yn Wrecsam bob dydd Mercher am 50 ceiniog yn unig.
Mae Wythnos Llyfrgelloedd yn gyfle gwych i ddod i adnabod eich llyfrgell a deall sut gall fod yn ychwanegiad gwych i’ch bywyd beth bynnag fo’ch oed. Os ydych yn rhiant gyda phlant ifanc, neu yn rhywun sydd angen print braille neu lyfrau print bras, angen mynediad at y rhyngrwyd neu ar gyfer chwilio am swydd, angen help gyda gwaith cartref neu eisiau dysgu iaith newydd, eisiau sefydlu busnes neu ymchwilio i hanes eich teulu – gall y llyfrgell fod o gymorth gydag unrhyw rai o’r rhain!
#wythnosllyfrgelloedd
Derbyniwch newyddion a gwybodaeth gan Gyngor Wrecsam yn syth bin drwy Fi Niweddariadau.
COFRESTRWCH FI