Yn ddiweddar penodwyd Steve Townley a Janette Williams yn Swyddogion Cyswllt y Lluoedd Arfog i weithio yn ardal Wrecsam ac ar draws Gogledd Cymru. Un o brif ddyletswyddau’r swydd hon yw hyrwyddo Cyfamod Cymunedol Y Lluoedd Arfog – mae’r swyddogion yn gyfrifol am ddarganfod os yw’r cyfamod cymunedol yn llwyddiannus, ac os nad yw’n llwyddiannus, datrys unrhyw broblem gysylltiedig.
Bwriad y cyfamodau hyn yw sicrhau nad yw milwyr, pan maent yn gadael y lluoedd arfog, o dan anfantais oherwydd eu gwasanaeth milwrol. Gall problemau godi oherwydd polisïau neu weithdrefnau sydd efallai ar waith.
Bydd y Swyddogion yn edrych ar bolisïau a gweithdrefnau cyfredol mewn meysydd megis Adnoddau Dynol, Gofal Cymdeithasol, Addysg a Thai. Byddant hefyd yn sicrhau bod anghenion cymuned y lluoedd arfog yn cael eu hystyried yn llawn wrth lunio cynlluniau strategol neu wasanaeth newydd sy’n gysylltiedig â deddfwriaeth.
Nid yw hynny’n golygu y bydd cyn-filwyr yn derbyn blaenoriaeth na thriniaeth ffafriol, ond byddant yn cael eu trin yr un mor deg a rhesymol ag unrhyw breswylydd arall.
Aethom ni, rhai o weithwyr https://newyddion.wrecsam.gov.uk/, draw i siarad â Janette a Steve yn fuan wedi iddynt ymgymryd â’u dyletswyddau newydd, i holi am yr hyn yr oeddent yn ei ddisgwyl a sut allen ni fod o gymorth i hyrwyddo’u gwaith.
“mae’r ddau’n awyddus iawn i ddechrau ar y gwaith”
Mae’n amlwg bod y ddau ohonynt yn frwdfrydig dros eu swyddi gan fod y ddau ohonynt brofiad o adael y lluoedd arfog. Bu Steve yn Fôr-Filwr Brenhinol a bu Jannette yn byw o fewn cymuned yr RAF oherwydd i’w thad wasanaethu am 25 mlynedd ac yna bu i’w gŵr wasanaethu am 15 mlynedd. Mae Steve a Jeannette yn awyddus iawn i ddechrau ar y gwaith ‘mapio’, sef lleoli yn lle yn union y mae 54,000 o gyn-filwyr yn byw yng Ngogledd Cymru
Bydd y ddau ohonynt yn edrych ar yr hyn sy’n gweithio mewn rhai ardaloedd ac yr arfer orau er mwyn ei rhannu ag ardaloedd eraill. Mae’n bwysig eu bod yn cadw cysondeb ar draws y rhanbarth.
“awyddus i gysylltu â chymaint o unigolion â phosibl”
Eglurodd Jannette, sy’n gwasanaethu ardaloedd Wrecsam, Sir y Fflint a Sir Ddinbych: Ar hyn o bryd, nid ydym yn sicr ym mhle yn union y mae’r mwyafrif o’r gymuned hon yn byw ac os ydynt yn cael neu wedi cael problemau â materion megis tai neu gael mynediad at ofal meddygol. Ar hyn o bryd, nid ydym yn sicr ym mhle yn union y mae’r mwyafrif o’r gymuned hon yn byw ac os ydynt yn cael neu wedi cael problemau â materion megis tai neu gael mynediad at ofal meddygol. Os edrychwn ar y darlun ehangach a chynnwys teuluoedd y cyn-filwyr hyn, sydd yr un mor bwysig ac sydd hefyd yn rhan o gymuned y lluoedd arfog, mae hyn yn golygu bod ein cymuned yn cynnwys oddeutu 100,000 unigolyns. Rydym yn awyddus i gysylltu â chymaint ohonynt â phosibl er mwyn clywed am eu profiadau, boed y rheiny’n ddau neu’n ddrwg, a gweld sut y gallwn wella pethau.”
Mae’r ddau’n awyddus iawn i gael mynediad at y cyllid sydd ar gael, er mwyn gwella’r gwaith sydd eisoes yn mynd rhagddo yn y rhanbarth i gynorthwyo cyn-aelodau’r lluoedd arfog a’u teuluoedd, megis y prosiect hunan-adeiladu yn Wrecsam. Mae’r prosiect hwn yn caniatáu i gyn-aelodau’r lluoedd arfog ddysgu sgiliau i adeiladu tai fforddiadwy ac mae cyfle iddynt hefyd i fyw yn yr eiddo. Ar hyn o bryd, mae lleoedd gwag a chyfle i gymryd rhan yn y prosiect hwn, felly os ydych chi neu’n adnabod unrhyw un sydd ar fin gadael neu wedi gadael y lluoedd arfog, cysylltwch â Steve a Jeannette drwy e-bostio:
janette.williams@wrexham.gov.uk stephen.townley@wrexham.gov.uk
Mae “gweithdy” hefyd ar y gweill – digwyddiad galw heibio yn Neuadd y Dref, ddydd Iau, 19 Hydref rhwng 2pm a 4pm. Digwyddiad yw hwn ar gyfer milwyr a chyn-filwyr a’u teuluoedd ac mae cyfle iddynt leisio eu profiadau, eu pryderon a chyngor i eraill
“Y Fyddin Diriogaethol, Milwyr Wrth Gefn, Cadetiaid, Cyn-Filwyr a Milwyr Presennol, ac, wrth gwrs, eu teuluoedd.”
Dywedodd Steve, sy’n gwasanaethu Ynys Môn, Gwynedd a Chonwy: “Pan rydym yn trafod cymuned y lluoedd arfog, rydym yn cynnwys y Fyddin Diriogaethol, Milwyr Wrth Gefn, Cadetiaid, Cyn-Filwyr a Milwyr Presennol, ac, wrth gwrs, eu teuluoedd. Hoffem weld gymaint o bobl â phosibl ddydd Iau, 19 Hydref – bydd y digwyddiad yn anffurfiol ac rydym yn edrych ymlaen at glywed am yr hyn sy’n gweithio a’r hyn sydd wedi mynd o’i le i’r rheiny sydd wedi aberthu llawer er mwyn gwasanaethu eu gwlad gartref a thramor.
“addas at y diben”
Roedd y ddau ohonynt yn gytûn eu bod yn edrych ymlaen at wynebu’r heriau ond roedd y ddau hefyd yn cydnabod pwysigrwydd eu swyddi a sicrhau bod Cyfamod Cymunedol Y Lluoedd Arfog yn addas at y diben – sef sicrhau nad yw milwyr, sydd ar fin gadael neu wedi gadael y lluoedd arfog o dan anfantais a’u bod yn gallu cael mynediad at y gwasanaethau y maent yn gymwys ar eu cyfer.
“mae lle i wella a digon i’w gyflawni”
Dywedodd y Cyng. David Griffiths, Cefnogwr y Lluoedd Arfog: ”
“Ers i ni arwyddo’r cyfamod yn 2013, mae’r sefyllfa ar gyfer cyn-filwyr yn Wrecsam wedi gwella ac erbyn hyn mae sawl cynllun ar waith na fyddai wedi bod yn bosib oni bai am y Cyfamod. Fodd bynnag, mae lle i wella a digon i’w gyflawni a bydd cyfraniad Steve a Jeannette o gymorth i sicrhau ein bod yn cyflawni pob dim. Mae’n ddyletswydd arnom i ddangos ein gwerthfawrogiad i’r unigolion hynny sydd wedi aberthu llawer i wasanaethu yn y lluoedd arfog ac rwyf yn benderfynol o sicrhau nad ydynt o dan unrhyw anfantais pan maent yn dychwelyd i fywyd fel sifiliaid.”
Dymunwn bob hwyl iddynt yn eu rolau ac edrychwn ymlaen at gael cwrdd â hwy yn y dyfodol i drafod datblygiadau
Dyma rai lluniau diddorol a dynnwyd ddydd Mercher, 5 Ebrill 2017 pan gafodd Cyfamod Cymunedol Y Lluoedd Arfog ei arwyddo ac fe dderbyniodd REME Ryddid Anrhydeddus y Fwrdeistref.