Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Ymunwch â’r darganfyddiad ar ein Diwrnod Agored
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Ymunwch â’r darganfyddiad ar ein Diwrnod Agored
Pobl a lleArall

Ymunwch â’r darganfyddiad ar ein Diwrnod Agored

Diweddarwyd diwethaf: Medi 10, 2021 12:52 pm
Rhannu
Darllen 5 funud
Ymunwch â'r darganfyddiad ar ein Diwrnod Agored
RHANNU

Mae Diwrnod Agored y mis hwn yn cynnig cyfle i ddarganfod mwy am gloddfa archeolegol gyffrous yn datgelu gweddillion y fila Rufeinig cyntaf erioed i gael ei ddarganfod yng ngogledd-ddwyrain Cymru.

Trefnwch eich apwyntiad brechlyn Covid-19 ar-lein.

Gwahoddir pobl i ddiwrnod agored cloddfa Yr Orsedd am ddim. Drefnir y digwyddiad gan Amgueddfa Wrecsam a Phrifysgol Caer, ddydd Sadwrn Medi 18.

Ymunwch â'r darganfyddiad ar ein Diwrnod Agored

Rhwng 10am a 4pm, gall ymwelwyr weld yr hyn a ddarganfuwyd yn ystod y cloddio ar y safle yn Burton, Rossett, Wrecsam – yn ogystal â’r hyn y mae’n ei ddatgelu am y fila a’r bobl a oedd yn byw yno.

Mae yma rywbeth at ddant y teulu cyfan, beth bynnag eu hoedran. Caiff ymwelwyr gerdded o amgylch y safle, cwrdd ag archeolegwyr a gwylio perfformwyr yn ail-greu golygfeydd o oes y Rhufeiniaid, a bydd amrywiaeth o weithgareddau hwyliog wedi’u hanelu at blant yn arbennig.

Anogir pobl i wneud y mwyaf o’r cyfle i ymuno â’r darganfyddiad gan nad yw’r gloddfa ar agor i’r cyhoedd ar adegau eraill heb ganiatâd.

Mae’r prosiect yn bartneriaeth waith rhwng Amgueddfa Wrecsam a Phrifysgol Caer, ac mae ganddo’r potensial i roi dealltwriaeth newydd inni o ogledd ddwyrain Cymru a gogledd orllewin Lloegr yn Oes y Rhufeiniaid.

Ymunwch â'r darganfyddiad ar ein Diwrnod Agored

Bydd y cloddio’n digwydd am dair wythnos ym mis Medi 2021, wedi dod o hyd i ddeunydd Rhufeinaidd ar y safle, gyda chydweithrediad criw lleol o ddefnyddwyr datgelyddion metel; arweiniodd hynny at archwiliad synhwyro o bell a ddatgelodd dystiolaeth bendant o strwythur wedi’i gladdu o dan y ddaear.

Wrth gerdded o amgylch y caeau daethpwyd o hyd hefyd i arteffactau o rhwng diwedd y ganrif gyntaf a dechrau’r bedwaredd ganrif, sy’n awgrymu y bu rhywun yn byw yno am y rhan helaeth o’r amser y bu’r Rhufeiniaid yn tra-arglwyddiaethu dros Brydain.

Mae darganfod fila yn y fan hon yn awgrymu fod patrwm yr aneddiadau a greodd y Rhufeiniaid yma yn debycach i weddill y Dalaith na’r hyn a dybiwyd o’r blaen. Nod y gwaith cloddio yw ymchwilio’n ddyfnach i hyn, ac ateb y cwestiynau sydd wedi codi yn sgil y darganfyddiad arbennig hwn ynglŷn â naws a dwysedd aneddiadau’r Rhufeiniaid yn y rhanbarth.

 

Meddai’r Cynghorydd Hugh Jones, Aelod Arweiniol dros Bobl yng Nghyngor Wrecsam ac Aelod lleol ward Yr Orsedd: “Rwyf wedi ymweld â’r safle fy hun, ac rwy’n annog unrhyw un sydd â diddordeb mewn hanes lleol i fanteisio ar y diwrnod agored. Gyda’r gloddfa hon rydym yn llythrennol yn torri tir newydd yn ein dealltwriaeth o fywyd lleol yn ystod y cyfnod Rhufeinig.”

 

Dywedodd Dr Caroline Pudney, sy’n arwain y prosiect gyda Stephen Grenter o Amgueddfa Wrecsam: “Ymunwch â ni i gael cipolwg ar orffennol Rhufeinig yr ardal a bod yn rhan o’r darganfyddiad rhyfeddol hwn sy’n herio dehongliadau cyfredol o hanes.”

Ychwanegodd Uwch Ddarlithydd mewn Archeoleg ac Arweinydd Rhaglen BA Archeoleg ym Mhrifysgol Caer, Dr Pudney: “Mae darganfyddiadau wedi ymddangos bob dydd ers y dechrau – ar ôl tynnu’r uwchbridd yn unig, fe ddaethon ni o hyd i waliau ac mae’r arteffactau rydyn ni wedi’u datgelu yn cynnwys darn arian , darn o botel wydr a chrochenwaith.

“Rydyn ni’n edrych ymlaen at groesawu pobl i’r safle i weld mwy ar y 18fed.”

I gael mwy o fanylion am y Diwrnod Agored, ac i archebu lle am ddim, ewch i:

https://romanrossett-yrorseddrufeinig.eventbrite.co.uk

Ymunwch â'r darganfyddiad ar ein Diwrnod Agored

Mae’r prosiect wedi derbyn arian gan yr Ymddiriedolaeth Ymchwil Rhufeinaidd a Rhaglen Datblygu Gwledig Llywodraeth Cymru ar gyfer 2014-2020 – Cymunedau Gwledig – sy’n cael ei gyllido gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygiad Gwledig a Llywodraeth Cymru.

I gael y wybodaeth ddiweddaraf am y cloddfa, chwiliwch am  #YrOrseddRufeinig ac #RomanRossett  ar gyfryngau cymdeithasol.

Ymunwch â'r darganfyddiad ar ein Diwrnod Agored

Rhagor o wybodaeth

Hanes ac Archeoleg ym Mhrifysgol Caer:

History and Archaeology at the University of Chester:

https://www1.chester.ac.uk/departments/history-and-archaeology

https://www.facebook.com/ArchaeologyChester

https://www.instagram.com/histarchchester/

Cyngor Wrecsam:

https://news.wrexham.gov.uk/

https://www.facebook.com/cyngorwrecsam

https://www.facebook.com/wrexhamcouncil

https://twitter.com/cbswrecsam

https://twitter.com/wrexhamcbc

https://www.instagram.com/cbswrecsam/

https://www.instagram.com/wrexhamcbc/

Amgueddfaau Wrecsam:

https://www.treftadaethwrecsam.cymru/

https://www.wrexhamheritage.wales/

https://twitter.com/amgueddfeyddwxm

https://twitter.com/wrexhammuseums

https://www.instagram.com/amgueddfawrecsam/

https://www.instagram.com/wrexhammuseum/

Mae gwneud apwyntiad i dderbyn brechlyn Covid-19 yn haws nag erioed o’r blaen.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” https://bipbc.gig.cymru/covid-19/gwybodaeth-brechlyn-covid-19/brechiad-covid-19-trefnu-apwyntiad-ar-lein/”]TREFNWCH APWYNTIAD AR-LEIN[/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Heddwch in Wrexham - outside front Lle byw â chymorth newydd yn Wrecsam yn helpu pobl sydd ag anableddau dysgu
Erthygl nesaf Parents Rhieni – rydym i gyd angen ychydig o gefnogaeth weithiau!

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

The People's Emergency Briefing – gallai'r ffilm hon fod yn un o'r pethau pwysicaf y byddwch chi'n ei wylio erioed
The People’s Emergency Briefing – gallai’r ffilm hon fod yn un o’r pethau pwysicaf y byddwch chi’n ei wylio erioed
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle
Medi 24, 2026
Wrexham Council News, Wrexham local councillors. Wrexham council chambers
Gwyliwch ein cyfarfodydd wyneb yn wyneb neu ar-lein
Y cyngor
Medi 24, 2026
Illegal Tobacco
Adran Safonau Masnach Wrecsam dan sylw
Y cyngor
Medi 24, 2026
All Saints School Library Opening
Ysgol Gynradd yr Holl Saint yn agor drysau ei llyfrgell newydd
Busnes ac addysg Pobl a lle
Medi 23, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Canolfan Darganfod Gwyddoniaeth Xplore! yn cyrraedd carreg filltir bwysig fel rhan o brofiad ymwelwyr gwell
Pobl a lle

Canolfan Darganfod Gwyddoniaeth Xplore! yn cyrraedd carreg filltir bwysig fel rhan o brofiad ymwelwyr gwell

Medi 22, 2026
Gresford memorial wheel
Pobl a lle

Colli 266 o fywydau yn enw glo – Trychineb Gwaith Glo Gresffordd 92 mlynedd yn ddiweddarach

Medi 22, 2026
Horse Riders
ArallPobl a lle

Cyngor ar gyfer gyrru ystyriol o gwmpas marchogion

Medi 21, 2026
Y Cyngor wedi cefnogi mwy na 220,000 o deithiau ar wasanaethau bws
Datgarboneiddio WrecsamPobl a lle

Y Cyngor wedi cefnogi mwy na 220,000 o deithiau ar wasanaethau bws

Medi 21, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English