Daeth pobl ifanc o bob cwr o’r sir mewn bysiau i Ganolfan Ieuenctid Rhiwabon i fwynhau cymryd rhan mewn gweithgareddau amrywiol yn cynnwys saethyddiaeth, dartiau, pŵl, tennis bwrdd, disgo tawel gan yr Urdd, cystadleuaeth pêl fasged a gemau targed pêl-droed gan Wrecsam Egnïol.
Roedd gweithgareddau eraill yn cynnwys addurno cacennau, paentio wynebau, tatŵs gliter, tostio malws melys ar y tân, bŵth tynnu lluniau, gwneud pizzas a choginio.
Cafodd cŵn poeth a byrgyrs eu coginio ar y barbeciw ac roedd fan hufen iâ yno hefyd er mawr lawenydd i’r rhai oedd yno!
Dywedodd yr Aelod Arweiniol Gwasanaethau Ieuenctid Phil Wynn, “Nod y digwyddiad oedd ehangu gorwelion pobl ifanc ac annog cydlyniant cymunedol drwy ddatblygu perthnasoedd â phobl ifanc o bob cwr o’r fwrdeistref sirol, wrth ddathlu wythnos gwaith ieuenctid 2024. “Mae gennym ddarpariaeth a thîm ieuenctid gwych yn Wrecsam, ac roedd y digwyddiad hwn yn ffordd wych o ddathlu Wythnos Gwaith Ieuenctid 2024.”