Mae Criw Celf yn cynnig cyfle i bobl ifanc (9 i 14 oed) sy’n caru celf, i gymryd rhan mewn dosbarthiadau meistr dan arweiniad artistiaid yn ystod gwyliau’r haf dros gyfnod o 6 diwrnod yn olynol.
Mae ein rhaglen o weithdai arbenigol yn cael ei chyflwyno wyneb yn wyneb yn Tŷ Pawb gydag artistiaid proffesiynol, ac yn cynnig cyfleoedd i gyfranogwyr ddatblygu sgiliau creadigol newydd a dealltwriaeth o gelf a chrefft weledol. Yn ogystal â chwrdd â ffrindiau newydd sydd hefyd yn mwynhau celf hefyd!
Cofrestrwch i gael newyddlen Tŷ Pawb yn syth i’ch blwch negeseuon
- Dyddiadau: wythnos yn dechrau 25ain Gorffennaf
- Trip Maes: Gwahoddir cyfranogwyr i fynychu taith maes 1 diwrnod i brofiad celf ym mis Awst 2022.
- Pris:£38 am 6 diwrnod o weithdai yn Tŷ Pawb gan gynnwys yr holl ddeunyddiau celf sydd eu hangen arnoch i gymryd rhan! Bwrsariaethau ar gael
Gwnewch gais i: natasha.borton@wrexham.gov.uk am ragor o fanylion
Mae Criw Celf yn brosiect ar gyfer artistiaid ifanc ym mlynyddoedd ysgol 5 i 9. Mae’n rhan o gynllun cenedlaethol i feithrin talent ifanc yn y Celfyddydau gweledol ac mae’n cael ei ariannu gan Gyngor Celfyddydau Cymru.
Cofrestrwch rŵan