Mae gweithio ym maes cymorth i fusnesau yn cynnwys bod yn hynod o drefnus, yn ogystal â rhoi gwasanaeth o ansawdd uchel i’ch adran a thrigolion y fwrdeistref sirol.
Yn syml, mae ein cynorthwywyr cymorth i fusnesau yn hanfodol i gynnal yr adran yn ddidrafferth.
Os yw hyn yn swnio fel rhywbeth y gallech chi ei wneud, darllenwch ymlaen gan ein bod ni’n hysbysebu ar gyfer Cynorthwyydd Cefnogi Busnes i weithio yn Uned Cynyddu Incwm ein Hadran Gyllid.
Mae’n swydd barhaol ac mae’n llawn amser (37 awr yr wythnos).
Hoffech chi wybod ychydig mwy am yr hyn sydd ei angen arnoch i lwyddo yma? Dyma ychydig o awgrymiadau 🙂
CELFYDDYDAU, MARCHNADOEDD, CYMUNED – COFRESTRWCH I DDERBYN NEWYDDION O TŶ PAWB .
Yr hyn fydd ei angen arna i
Wedi’i leoli yn Stryt Y Lampint, bydd eich prif ddyletswyddau’n cynnwys helpu i ddiweddaru ein systemau gwybodaeth, teipio gwybodaeth, a rhai dyletswyddau swyddfa eraill…felly mae sgiliau cyfrifiadur da yn hanfodol!
Bydd angen i chi allu dangos rhywfaint o brofiad o weithio gyda phecynnau Microsoft Office, megis Word ac Excel.
Chi hefyd fydd y pwynt cyswllt cyntaf ar gyfer cleientiaid, staff proffesiynol ac unrhyw sefydliadau sy’n cysylltu â’r Uned i wneud ymholiadau…bydd yn rhaid i’ch sgiliau gwasanaeth cwsmeriaid fod yn berffaith wrth i chi gymryd cyfrifoldeb am drefnu apwyntiadau a rheoli’r dyddiadur.
Bydd angen sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig a llafar ardderchog arnoch chi, ac yn amlwg bydd angen sgiliau rhifol digonol arnoch chi i weithio yn ein hadran gyllid 😉
Swnio’n dda?
Os felly, cliciwch ar y ddolen isod i weld y disgrifiad swydd yn llawn a gwneud cais.
Y dyddiad cau ar gyfer y swydd hon yw dydd Gwener, 26 Ebrill.
Edrychwn ymlaen at glywed gennych chi 🙂
Gwych … Ddangoswch y SWYDD Na… Dw i’n iawn ddiolch