Yr wythnos hon, fe fydd Wrecsam yn troi’n las i ddathlu Diwrnod Byd-eang y Plant ac mae gwahoddiad i chi ddod draw i Dŷ Pawb ar gyfer diwrnod gwych o hwyl.
Ar 18 Tachwedd, dewch draw i Dŷ Pawb rhwng 3pm a 7.30pm, ac ymunwch yn ein dathliad am ddim gyda bwyd am ddim, stondinau gwybodaeth, gweithgareddau chwarae, cerddoriaeth fyw, meic agored, hud a lledrith a llawer mwy. Fe fyddem ni wrth ein bodd yn gweld pawb yn rhoi cynnig ar y meic agored, felly dewch â’ch offerynnau gyda chi!!
Dewch i weithio ym maes gofal cymdeithasol, er mwyn eich cymuned.
Fe fyddwn ni hefyd yn beirniadu cystadleuaeth ‘Beth mae bod â llais yn ei olygu i chi?’ Gall plant a phobl ifanc ennill taleb gwerth £100 o’u dewis nhw drwy greu darn o waith mewn unrhyw gyfrwng – ysgrifenedig, celf, cerddoriaeth, fideo ac ati. Y dyddiad cau fydd 16 Tachwedd ac fe fydd yna dri chategori oedran – 10 ac iau, 11-16 a 17-25 oed. Dyma’r ffurflen gais a’r telerau ac amodau llawn.
Rydym ni hefyd yn gofyn i chi wisgo rhywbeth glas ar y diwrnod yma (y lliw a gydnabyddir yn rhyngwladol ar gyfer Diwrnod Byd-eang y Plant), i helpu i roi sylw ar bwysigrwydd hawliau plant.
Dyddiad swyddogol Diwrnod Byd-eang y Plant ydi 20 Tachwedd, pan fydd Cyngor Wrecsam yn troi Neuadd y Dref yn las! Fe fydd adeiladau eraill ar draws Gogledd Cymru yn gwneud yr un fath, felly cadwch lygad amdanynt os fyddwch chi allan. Os ydych chi yn Wrecsam am 5pm y diwrnod hwnnw, beth am ddod draw i Neuadd y Dref i gael tynnu eich lun i ddangos eich cefnogaeth ar gyfer hawliau plant.
DOD O HYD I SWYDDI GOFALU LLEOL