Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Helpwch i amddiffyn rhai sy’n agored i niwed rhag masnachwyr twyllodrus – mwy o wybodaeth yma
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > Helpwch i amddiffyn rhai sy’n agored i niwed rhag masnachwyr twyllodrus – mwy o wybodaeth yma
Y cyngor

Helpwch i amddiffyn rhai sy’n agored i niwed rhag masnachwyr twyllodrus – mwy o wybodaeth yma

Diweddarwyd diwethaf: Awst 3, 2017 4:43 pm
Rhannu
Darllen 4 funud
Helpwch i amddiffyn rhai sy’n agored i niwed rhag masnachwyr twyllodrus – mwy o wybodaeth yma
RHANNU

Mae Cyngor Wrecsam yn cynghori trigolion i fod yn ymwybodol o fasnachwyr twyllodrus ac i helpu eu cymdogion, perthnasau a’u ffrindiau sy’n agored i niwed i osgoi derbyn gwaith diangen yn eu cartrefi ar ôl i fasnachwr twyllodrus gael ei garcharu heddiw, wedi iddo gael cannoedd o bunnoedd gan breswylydd hŷn drwy dwyll am wneud gwaith.

Cynnwys
  •  “Cadw golwg ar eu ffrindiau, eu teulu a’u cymdogion”
  • Pwy i gysylltu â nhw

Cafodd Edward Delaney ei garcharu am 14 mis yn Llys y Goron yn yr Wyddgrug ddydd Mercher, 2 Awst ar ôl pledio’n euog o dwyll. Daeth Swyddogion Safonau Masnach Cyngor Wrecsam â’r achos i’r Llys ar ôl ymchwiliad i waith a wnaeth Delaney mewn eiddo yn Wrecsam yn hydref 2015.

GALLWCH GAEL NEWYDDION A GWYBODAETH AR UNWAITH GAN GYNGOR WRECSAM GYDA FY NIWEDDARIADAU.

Yn ystod yr ymchwiliad, fe ddaeth i’r amlwg bod y sawl a oedd yn byw yn y tŷ wedi’i dargedu dro ar ôl tro yn y gorffennol gan fasnachwyr twyllodrus, gan dalu canoedd o bunnoedd dros y blynyddoedd am waith amrywiol ar ei dŷ neu yn yr ardd nad oedd ei angen ac a oedd yn eithaf di-werth.

Mae Cyngor Wrecsam yn atgoffa pobl bod angen iddynt fod yn wyliadwrus o fasnachwyr fel y rhain.

 “Cadw golwg ar eu ffrindiau, eu teulu a’u cymdogion”

Dywedodd y Cynghorydd Hugh Jones, Aelod Arweiniol Cymunedau, Partneriaethau, Gwarchod y Cyhoedd a Diogelwch Cymunedol: “Mae’r math hwn o dargedu dro ar ôl tro’n gyffredin iawn mewn troseddau ar stepen y drws.

“Gall trigolion sy’n agored i niwed gael eu twyllo a’u gwthio i ffurfio cytundebau hirdymor sy’n gallu achosi iddyn nhw golli eu cynilion am waith sy’n ddrud, yn ddiangen ac sydd o safon wael.

“Weithiau, mae’n anodd deall sut y gall unrhyw un adael i hyn ddigwydd, ond mae’n bwysig cydnabod bod rhai pobl yn ein cymunedau’n agored iawn i niwed, efallai oherwydd eu hoed neu broblemau iechyd.

“Bydd llawer yn credu nad ydyn nhw mewn perygl o ddioddef troseddau fel hyn, ond fe fyddwn i’n ymbil arnyn nhw i gadw golwg ar eu ffrindiau, eu teulu a’u cymdogion sydd, o bosib’, yn llai hyderus neu ddigon gwybodus i wrthod y math hwn o waith.

“Os ydych chi’n gweld neu’n clywed am unrhyw beth amheus, rwy’n gofyn i chi roi gwybod amdano.”

Pwy i gysylltu â nhw

Os ydych chi’n gweld unrhyw un yn ymddwyn yn amheus neu os oes masnachwr twyllodrus wedi cysylltu â chi, cysylltwch â Gwasanaeth Cwsmeriaid Cyngor ar Bopeth ar 03454 04 05 05 (neu 03454 04 05 06 am y gwasanaeth Saesneg).

Os ydych chi’n pryderu ynglŷn â masnachwyr sy’n gweithio neu’n rhannu taflenni yn eich cymdogaeth, cysylltwch â’ch tîm Heddlu lleol ar 101. Os oes masnachwr sy’n troi’n ddifrïol neu os ydych chi’n teimlo dan fygythiad, cysylltwch â’r Heddlu ar 999.

Cyngor yr Adran Safonau Masnach yw na ddylech chi fyth gytuno i waith sy’n cael ei gynnig gan alwr diwahoddiad.  Os ydych chi’n teimlo bod angen y gwaith, ceisiwch gael sawl dyfynbris gan rai sydd ag enw da cyn cytuno i unrhyw beth.

Os ydych chi’n teimlo eich bod angen help i gael dyfynbrisiau, gofynnwch am help gan rywun rydych chi’n ymddiried ynddyn nhw a chofiwch – fe fydd masnachwyr teg wastad yn fodlon rhoi amser i chi benderfynu a ydych chi am barhau efo’r gwaith ai peidio.

Derbyniwch newyddion a gwybodaeth gan Gyngor Wrecsam yn syth bin drwy Fy Niweddariadau.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”http://www.wrexham.gov.uk/welsh/user_register_w/register_w.cfm”]COFRESTRWCH FI[/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Ydych chi’n chwilio am swydd? Efallai bod gennym ni’r swydd ddelfrydol i chi... Ydych chi’n chwilio am swydd? Efallai bod gennym ni’r swydd ddelfrydol i chi…
Erthygl nesaf Yr ystâd sydd ar fin cael ei gweddnewid... Yr ystâd sydd ar fin cael ei gweddnewid…

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Wo
Mae asesiad risg hinsawdd Gogledd Cymru yn amlygu’r camau gweithredu sydd eisoes yn mynd rhagddynt, a’r angen i feithrin mwy o gadernid
Pobl a lle Arall Datgarboneiddio Wrecsam
Hydref 23, 2026
Llun o Marchnad y Cigyddion Wrecsam
Ffocws ar gymorth busnes yn Wrecsam
Busnes ac addysg
Hydref 23, 2026
National Adoption Week 2026
Wythnos Mabwysiadu Genedlaethol 2026 – astudiaeth achos gan Wasanaeth Mabwysiadu Gogledd Cymru
Y cyngor Pobl a lle
Hydref 23, 2026
Could you be a councillor?
Allech chi fod yn gynghorydd?
Pobl a lle Digwyddiadau
Hydref 22, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau gwastraff ac ailgylchu yn Wrecsam
Y cyngor

Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau gwastraff ac ailgylchu yn Wrecsam

Hydref 9, 2026
Cloudy sky
Y cyngorArall

Rhybudd tywydd – Storm Austen

Hydref 22, 2026
Cadwch yn ddiogel yn ystod tymor tân gwyllt: Dewiswch ddigwyddiadau sydd wedi'u trefnu
Y cyngor

Cadwch yn ddiogel yn ystod tymor tân gwyllt: Dewiswch ddigwyddiadau sydd wedi’u trefnu

Hydref 20, 2026
Apêl cotiau gaeaf i blant 2026
Y cyngor

Apêl cotiau gaeaf i blant 2026

Hydref 9, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English