Mae tipio anghyfreithlon yng Nghymru wedi bod ar gynnydd dros y blynyddoedd diwethaf, ac mae wedi cael effaith ddinistriol ar yr amgylchedd a’n cymunedau lleol. Nid yw sbwriel sy’n cael ei adael yn anghyfreithlon yn edrych yn dda, ond mae hefyd yn beryglus ac yn ddrud i’w symud.
Cynhelir yr ymgyrch cenedlaethol fel rhan o Caru Cymru – mudiad cynhwysol sydd yn cael ei redeg gan Cadwch Gymru’n Daclus a chynghorau i ysbrydoli pobl i weithredu, a gofalu am yr amgylchedd.
Rydym yn sbarduno tenantiaid i wneud y peth iawn gyda’u heitemau cartref diangen. Mae’n haws nag ydych yn ei feddwl, a rhatach na dirwy.
Dywedodd Owen Derbyshire, Prif Weithredwr Cadwch Gymru’n Daclus: “Mae tipio anghyfreithlon wedi bod ar gynnydd yn ystod y blynyddoedd diwethaf, gyda’r amharu a achoswyd gan y pandemig yn cael effaith amlwg ar lendid ein cymunedau. Mae eitemau sy’n cael eu gadael ar y stryd yn costio miliynau i awdurdodau lleol eu symud, ac – yn syml – mae’n edrych yn ofnadwy.
“Nod ein hymgyrch newydd yw annog cymunedau ar draws Cymru i gadw eu hardaloedd lleol yn rhydd rhag gwastraff cartref a dweud ‘Nid ar fy Stryd i’.
“Diolch byth, mae uwchgylchu a thrwsio eitemau yn fwy poblogaidd nag erioed. Dyma pam yr ydym yn llawn cyffro i fod yn gweithio ar y cyd ag awdurdodau lleol a chymdeithasau tai i helpu cymunedau i wneud eu rhan, trwy ein digwyddiadau ymgysylltu cymunedau, ac yn ein caffis trwsio dros dro.
“Mae gwaredu eich eitemau cartref diangen yn haws nag ydych yn ei feddwl, ac – yn bwysig iawn – mae’n rhatach na dirwy.”
Linciau defnyddiol
Caru Cymru Wrecsam: wrecsam.gov.uk/service/gwasanaethau-gorfodi-amgylcheddol/caru-cymru-wrecsam
Gallwch ddod o hyd i wybodaeth ailgylchu lleol yma: wrecsam.gov.uk/services/biniau-ac-ailgylchu
Gallwch ddod o hyd i’ch canolfan ailgylchu agosaf yma: wrecsam.gov.uk/service/ffyrdd-eraill-o-ailgylchu-yn-wrecsam/canolfan-ailgylchu-gwastraff-y-cartref
Gallwch weld sut i gael gwared ar eitemau mawr yma: wrecsam.gov.uk/service/ffyrdd-eraill-o-ailgylchu-yn-wrecsam/rhoddi-dodrefneitemau-swmpus
Gallwch hefyd ddod o hyd i rai awgrymiadau defnyddiol ar gyfer ailgylchu: https://www.recyclenow.com/
Ymfalchïwch yn eich cymuned leol drwy roi gwybod am unrhyw achosion cyhoeddus o dipio anghyfreithlon drwy: https://myaccount.wrexham.gov.uk/cy/service/Fly_tipping_report
Gwiriwch bob tro fod ganddynt drwydded cludo gwastraff gyda Cyfoeth Naturiol Cymru!
www.cyfoethnaturiolcymru.gov.uk/GwirioGwastraff
Wedi methu casgliad bin? Rhowch wybod i ni ar-lein – mae’n hawdd.
RHOWCH WYBOD AM GASGLIAD BIN A FETHWYD