Manteisiodd disgyblion un o’n hysgolion cynradd ar y cyfle i guddio ychydig o hanes o dan yr adeilad newydd wrth i waith adeiladu fynd yn ei flaen ar y safle.
Mae’r gwaith o adeiladu estyniad newydd i Ysgol Gynradd Gwersyllt yn mynd yn ei flaen ar hyn o bryd.
Aethom i ymweld â’r ysgol yn hwyr y llynedd wrth i’r cam adeiladu cyntaf ddod i ben, pan wnaeth disgyblion lofnodi un o’r trawstiau dur oedd i gael ei ddefnyddio fel rhan o ffrâm yr adeilad.
A rŵan, mae’r disgyblion wedi ychwanegu tamaid bach arall o hanes at yr adeilad newydd drwy guddio capsiwl amser o dan y lloriau.
Rhoddodd aelodau o gyngor yr ysgol y capsiwl o dan lawr yr adeilad newydd yn gynharach yr wythnos hon.
Roedd y capsiwl yn cynnwys lluniau o fywyd yn yr ysgol; atgofion wedi’u hysgrifennu gan ddisgyblion, staff a llywodraethwyr; ffeiliau ffeithiau dosbarthiadau a gwybodaeth am weithgareddau dydd i ddydd yr ysgol; cyfweliadau fideo a lluniau a gwaith ysgrifenedig gan y disgyblion.
Meddai’r Cynghorydd David Griffiths, llywodraethwyr a chyn ddisgybl Ysgol Gynradd Gwersyllt: “Roeddwn i’n falch o nodi – ac mi ddywedais hynny wrth y disgyblion – bod y diwrnod pan gladdwyd y capsiwl amser yn nodi 50 o flynyddoedd ers lansiad Apollo 11 ar ei siwrnai i’r lleuad.
“Roedd hwnnw’n ddiwrnod hanesyddol i’r byd i gyd – hanner can mlynedd yn ddiweddarach rydym ni, yn ein ffordd ein hunain, yn cofnodi ychydig bach o hanes i Wersyllt.
“Mae’r gwaith ar yr ysgol newydd yn rhagorol ond roeddem yn teimlo y dylai’r disgyblion roi rhywbeth at ei gilydd am orffennol a phresennol yr ysgol, sydd yn awr yn aros i genedlaethau’r dyfodol ddod o hyd iddo.”
Nid y capsiwl amser yw’r unig gofnod o hanes yr ysgol sydd wedi’i ychwanegu at yr adeilad newydd.
Mae hen gloch yr ysgol wedi’i harddangos mewn cas gwydr yn un o’r coridorau newydd.
Yn ogystal bydd bwrdd anrhydeddau o’r 1920au sy’n arddangos enwau disgyblion a enillodd ysgoloriaethau a llefydd am ddim i’w weld yn y Maes Dysgu unwaith y bydd y gwaith wedi’i gwblhau.
Meddai Joel Moore, Pennaeth Ysgol Gynradd Gwersyllt: “Mi wnaeth y plant fwynhau’r cyfle i gofnodi rhywfaint o’u hanes yn fawr iawn ac maen nhw’n gweld y posibilrwydd y bydd y capsiwl amser yn cael ei ddarganfod un diwrnod ac yn rhoi gwybodaeth i genedlaethau’r dyfodol am fywyd yn ein hysgol ni yn gyffrous dros ben.
“Roedd aelodau cyngor yr ysgol yn falch iawn o gael y cyfle i gladdu’r capsiwl ac rydym yn ddiolchgar iawn i’r contractwyr, Read, am roi amser i ni wneud hynny.
I gymryd rhan yn yr ymgynghoriad ar Gynllun y Cyngor, cliciwch yma
DWI ISIO MYNEGI FY MARN!DOES DIM OTS GEN