Mae ein hysgolion yn mynd yn ddi-arian ac rydym yn ymuno â ParentPay – arweinydd y farchnad yn y DU o ran taliadau ar-lein ac yn ei gyflwyno i bob ysgol.
Cefnogir ParentPay gan fwy na 11,000 o ysgolion ledled y DU, yn darparu gwasanaethau talu i dros 4 miliwn o rieni. Mae ei raglen gwe diogel, hyblyg yn caniatáu i rieni wneud taliadau ar gyfer pob eitem ysgol, gan gynnwys prydau, tripiau, clybiau a gwisg ysgol.
Y diweddaraf am y rhaglen frechu rhag Covid-19 ar draws Wrecsam a Gogledd Cymru
Trwy ddefnyddio ParentPay bydd llai o drin arian mewn ysgolion a fydd yn arbed amser gweinyddol a hefyd yn golygu y bydd llai o arian yn cael ei gadw mewn swyddfeydd ysgolion.
Bydd rhieni yn gweld budd ParentPay
Bydd rhieni hefyd yn gweld gwahaniaeth gan y bydd yn darparu ffordd gyfleus i dalu gyda cherdyn, trosglwyddiad banc neu PayPoint. Mae’n gweithio’n wych ar dabledi a ffonau yn ogystal â chyfrifiaduron. Byddant yn gallu gweld bwydlenni’r ysgol a gweld yr holl wybodaeth ddietegol a maeth.
Byddant yn cael eu diweddaru gan negeseuon pwysig a anfonir gan yr ysgol yn uniongyrchol at rieni trwy e-bost a neges destun. Gellir talu am dripiau, a gellir rhoi caniatâd a gwybodaeth feddygol ar-lein.
Gellir prynu offer, gwisg ysgol neu luniau myfyrwyr trwy siop ar-lein yr ysgol, a rhoddir rhybudd o flaen llaw o glybiau gan ganiatáu i rieni/gofalwyr gadw lle, talu a sicrhau lle cynnar.
Sut mae Taliadau ParentPay yn gweithio?
Bydd gan rieni a gofalwyr fynediad at gyfrif ar-lein diogel gan ddefnyddio enw defnyddiwr a chyfrinair unigryw. Byddant hefyd yn gallu defnyddio cardiau debyd neu gredyd a gellir gwneud taliadau gydag arian trwy rwydweithiau PayPoint mewn siopau lleol.
CANFOD Y FFEITHIAU