Mae nifer o ysgolion yn Wrecsam yn gweithio’n galed i gynhyrchu ‘PPE’ i helpu gweithwyr rheng flaen y GIG.
Mae’r cyfarpar diogelu personol – yn enwedig fisorau wyneb wedi’u hargraffu mewn 3D – yn cael ei gynhyrchu mewn ysgolion gan ddefnyddio eu cyfleusterau dylunio a thechnoleg.
Mae’r Cynghorydd Mark Pritchard, Arweinydd Cyngor Wrecsam ac Ian Bancroft, Prif Weithredwr, wedi diolch i bob ysgol am wirfoddoli i aros ar agor dros y Pasg, ac am eu hymdrechion wrth gynhyrchu PPE.
Dywedasant: “Yn ogystal ag aros ar agor dros gyfnod y Pasg i sicrhau bod modd i weithwyr allweddol barhau i ddarparu gwasanaethau’r rheng flaen, bydd ymdrechion ysgolion wrth gynhyrchu’r fisorau yn cyfrannu at sicrhau bod staff rheng flaen yn y GIG yn gallu parhau â’u rolau mor ddiogel ag sy’n bosibl.
“Hoffem ddiolch i bob ysgol yn Wrecsam sy’n cynhyrchu PPE, yn ogystal ag ysgolion, prifysgolion a cholegau ar draws gweddill y wlad sy’n rhan o’r ymdrech genedlaethol hon.”
Darllenwch y wybodaeth ddiweddaraf am Covid-19.
Y WYBODAETH DDIWEDDARAF AM COVID-19