Mae’n Wythnos Gwaith Ieuenctid yr wythnos hon, a thrwy gydol yr wythnos byddwn yn cyhoeddi erthyglau am feysydd gwahanol gwaith ieuenctid mae’r cyngor yn eu darparu a’u cefnogi.
Mae’r erthygl gyntaf yn canolbwyntio ar Senedd yr Ifanc.
Felly, beth yw nod Senedd yr Ifanc?
Mae Senedd yr Ifanc yn gweithio’n galed i fynd i’r afael â materion sy’n bwysig i bobl 11-25 oed. Y nod yw rhoi lle i bobl ifanc wrth y bwrdd dadlau pan drafodir newidiadau mawr a all effeithio ar weddill eu bywydau.
COFRESTRWCH FI AM RYBUDDION E-BOST GAN YR ADRAN DIOGELU’R CYHOEDD RŴAN!
Pryd maent yn cwrdd?
Mae’r Senedd yn cyfarfod ar ddydd Llun olaf y mis yn Neuadd y Dref, Wrecsam. Mae cyfarfodydd y Senedd yn gyfarfodydd strwythurol â rhannau ffurfiol ac anffurfiol. Bydd gweithwyr proffesiynol yn dod i siarad â’r aelodau yng nghyfarfodydd y Senedd er mwyn casglu eu barn a’u safbwyntiau am faterion penodol. Gall cyfarfodydd y Senedd hefyd gynnwys dadleuon, gweithgorau sy’n ymdrin â materion penodol, hyfforddiant, ymgynghoriadau a llawer mwy.
Sut allaf i ddod yn gynrychiolydd?
Gall unrhyw berson ifanc fod yn gynrychiolydd ar y Senedd. Byddant yn gyfrifol am sicrhau bod safbwyntiau pobl ifanc eraill eu grŵp, fforwm, ysgol ac ati, yn cael eu hystyried mewn materion sy’n effeithio ar bobl ifanc ar draws y sir. Fel cynrychiolydd, maent hefyd yn gyfrifol am fwydo unrhyw wybodaeth, atebion a diweddariadau o’r Senedd yn ôl i’w grwpiau ieuenctid, fforwm, ysgol ac ati.
Mae’r Senedd yn rhoi cyfle i bobl ifanc gael dweud eu dweud a chael llais ar faterion sy’n effeithio arnynt.
Am ragor o wybodaeth am Senedd yr Ifanc a sut i godi materion a dod yn aelod, ymwelwch â Wrecsam Ifanc.
Rwyf eisio derbyn rhybuddion yn y dyfodol gan yr adran Diogelu’r Cyhoedd
COFRESTRWCH FI RŴAN