’Waeth faint o arian rydych chi’n gallu ei gynilo, na pha mor aml, os ydych chi ar incwm isel gallwch gymryd mantais o gynllun cynilo newydd y Llywodraeth a fydd yn rhoi 50c i chi am bob £1 rydych yn ei chynilo.
Felly dros bedair blynedd, byddai uchafswm cynilion o £2,400 yn rhoi bonws di-dreth o £1,200 i chi. Mae hynny’n golygu y byddech chi’n cael £1,200 os byddech chi’n cynilo £50 y mis am bedair blynedd.
Mae Help to Save yn hawdd ei ddefnyddio, yn hyblyg ac yn ddiogel, bydd yn helpu’r rhai ar incwm bach i gasglu arian at raid ac yn annog arfer o gynilo. Mae faint rydych chi’n ei gynilo yn fater i chi, yr un sy’n dal y cyfrif, ac nid oes angen i chi dalu i mewn bob mis i gael bonws.
Mae Help to Save ar gael i bobl sy’n gweithio ac sydd ar Gredydau Treth neu Gredyd Cynhwysol.
Gallwch gynilo rhwng £1 a £50 pob mis ac mae cyfrifon yn para pedair blynedd o ddyddiad agor y cyfrif. Ar ôl dwy flynedd, cewch fonws di-dreth o 50% ar eich cynilon. Os byddwch yn parhau i gynilo, cewch fonws arall o 50% ar ôl pedair blynedd.
Ar yr uchafswm cynilo o £2,400 dros bedair blynedd, byddech yn cael bonws o £1,200.
I ymgeisio, gallwch ymweld â www.gov.uk/helptosavelocal neu ddefnyddio ap yr Adran Cyllid a Thollau.
#HelptoSave #CymorthCynilo #BuddsoddiErMwynHelpu
Sut i fod yn archarwr ailgylchu…mewn dau gam syml.
DERBYNIWCH AWGRYMIADAU AILGYLCHU