Ym mis Medi 2023, bydd Llywodraeth Cymru’n cyflwyno’r terfyn cyflymder is o 20mya ar hyd a lled Cymru. Darllenwch ymlaen i gael gwybod pam wnaed y penderfyniad a beth mae’n ei olygu i yrwyr yng Nghymru.
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru a’r Sefydliad Ymchwil Trafnidiaeth wedi cyhoeddi canlyniadau eu hymchwil, yn dangos y bydd lleihau’r terfyn cyflymder i 20mya mewn ardaloedd preswyl ac adeiledig lle mae llawer yn cerdded yn arwain at lai o farwolaethau ac anafiadau ac, yn ei dro, yn arbed £100 miliwn o ran gofal iechyd yn y flwyddyn gyntaf yn unig.
Maent yn amcangyfrif y bydd y terfyn cyflymder arferol o 20mya yn achub mwy na 100 o fywydau mewn degawd a gallai olygu 14,000 yn llai wedi’u hanafu.
Mae llai o gyflymder hefyd yn creu lle mwy diogel i gerddwyr a beicwyr ac yn lleihau straen a phryder.
Bydd y newid i’r terfyn cyflymder yn digwydd ar ffyrdd cyfyngedig, sef y rhai sydd â goleuadau stryd, ac mae arolwg annibynnol newydd o farn y cyhoedd, a wnaed gan Beaufort Research ar ran Llywodraeth Cymru, yn dangos bod mwyafrif y rhai a ymatebodd yn cefnogi’r terfyn cyflymder is.
HAWLIWCH YR HYN SY’N DDYLEDUS I CHI