Cafwyd y tri diffynnydd, Mr Akarsu Bulent, Cuma Ali Acun a Gholam Reza Noori, lesddeiliaid 1a Rhodfa’r Orsaf, y Waun, yn euog yn Llys Ynadon yr Wyddgrug yn ddiweddar am weithredu Tŷ Amlfeddiannaeth didrwydded yn anghyfreithlon.
Cafodd y diffynyddion eu rhyddhau ar amodau am 12 mis, a’u gorfodi i dalu costau. Cafodd yr eiddo ei archwilio y llynedd gan Swyddog Gwarchod y Cyhoedd, a welodd nad oedd yn ddiogel i fyw ynddo.
Derbyniwch newyddion a gwybodaeth gan eich cyngor lleol – cofrestrwch i dderbyn bwletinau ar ffurf e-bost.
Roedd y diffynyddion hefyd wedi methu ag ymgeisio am drwydded i Dŷ Amlfeddiannaeth ar gyfer yr llety byw uwch ben y bwyty pan wnaethant brynu’r eiddo.
Dywedodd y Cynghorydd Hugh Jones, Aelod Arweiniol Cymunedau, Partneriaethau, Gwarchod y Cyhoedd a Diogelwch Cymunedol, “Mae’r erlyniad yma’n anfon neges gryf i unrhyw un sy’n ystyried gweithredu Tŷ Amlfeddiannaeth heb drwydded ac anwybyddu deddfwriaeth dai sydd mewn grym i gadw tenantiaid yn ddiogel.
“Ni fyddwn yn oedi cyn cymryd camau gorfodi os bydd landlordiaid yn methu â chydymffurfio â’r gyfraith.”
Derbyniwch ein prif straeon dros e-bost.
TANYSGRIFWYCH