Mae Safonau Masnach a Heddlu Gogledd Cymru wedi atafaelu swm aruthrol o e-sigaréts anghyfreithlon o siop yng nghanol dinas Wrecsam. Aeth swyddogion tîm Gwarchod y Cyhoedd, gyda chefnogaeth yr Heddlu, i mewn i’r siop nos Wener.
Dangosodd archwiliad o’r e-sigaréts yn y siop bod oddeutu 3,000 ohonyn nhw yn anghyfreithlon. Roedd yr e-sigaréts yn cael eu gwerthu am oddeutu £10 yr un, sy’n golygu bod cyfanswm gwerth stryd y nwyddau yn oddeutu £30,000
Mae cyfraith y DU yn cyfyngu ar faint a chynnwys nicotin e-sigaréts tafladwy. Roedd yr eitemau a atafaelwyd yn cynnwys dwywaith y cryfder nicotin a ganiateir a mwy na’r 2ml o hylif e-sigaréts a ganiateir.
Mae e-sigaréts yn gallu helpu ysmygwyr tybaco i roi’r gorau i’w dibyniaeth angheuol drwy ddefnyddio llai o gynnyrch niweidiol. Fodd bynnag, mae yna risg ynghlwm wrth ddefnyddio e-sigaréts ac felly ceir rheoliadau i wneud yr e-sigaréts mor ddiogel â phosibl drwy reoli eu cryfder a’u maint.
Os nad ydych chi’n ysmygu, peidiwch â defnyddio e-sigaréts
Mae yna bryder cynyddol ynghylch nifer y bobl nad ydyn nhw’n ysmygu sy’n arbrofi gydag e-sigaréts. Mae’r gost resymol, argaeledd y cynnyrch a’r hysbysebion deniadol yn ychwanegu at y broblem yma, ac mae pryder bod y dulliau marchnata a ddefnyddir gan weithgynhyrchwyr wedi’u dylunio i wneud y cynnyrch yn ddeniadol i blant.
Mae’n anghyfreithlon gwerthu e-sigaréts i unigolion dan 18 oed, pa un ai yw’r cynnyrch ei hun yn anghyfreithlon ai peidio. Ar gyfer plant ac oedolion, mae’r neges yn syml – os nad ydych chi’n ysmygu, peidiwch â defnyddio e-sigaréts.
Mae’r cynnydd yn eu poblogrwydd hefyd wedi arwain at broblem amgylcheddol, gydag oddeutu 5 miliwn o e-sigaréts tafladwy yn cael eu taflu bob wythnos yn y DU. Mae bob e-sigarét sy’n cael ei thaflu yn cynnwys batri lithiwm, plastig, elfennau trydanol a hylif gweddilliol. Er bod y gyfraith yn rhoi cyfrifoldeb cyfreithiol ar y cynhyrchwyr i’w hailgylchu, mae astudiaeth ddiweddar yn awgrymu mai dim ond 17% ohonyn nhw sy’n cael eu hailgylchu, a bod y gweddill yn cael eu taflu i’r bin. Gall hyn achosi problemau mewn canolfannau trin gwastraff, sydd wedi gweld sawl tân oherwydd y batris lithiwm sy’n cael eu taflu.
Mae’r ymchwiliadau i’r atafaeliad yma’n parhau.
Os oes gennych chi bryderon ynghylch e-sigaréts a all fod yn anghyfreithlon neu siopau a all fod yn eu gwerthu i blant, cysylltwch â Gwasanaeth Defnyddwyr Cyngor ar Bopeth ar 0808 223 1144 (1133 ar gyfer Saesneg).