Bydd enillwyr Gwobr Gerddoriaeth Cymru yn arwain digwyddiad cerddoriaeth fyw am ddim diwrnod o hyd yn Tŷ Pawb.
Mae Adwaith yn rhan o fil serol o fandiau gorau Cymru a fydd yn perfformio yng nghanolfan gelf Wrecsam fel rhan o Dydd Miwsig Cymru ar ddydd Sadwrn Chwefror 8.
Mae Dydd Miwisg Cymru yn ddigwyddiad blynyddol sy’n dathlu cerddoriaeth Gymraeg, gyda nifer o gyngherddau a gweithgareddau yn cael eu cynnal mewn lleoliadau ledled y wlad.
Yn dilyn llwyddiant digwyddiad y llynedd, mae Tŷ Pawb unwaith eto wedi ymuno â thîm FOCUS Wales i ddod â’r digwyddiad i Wrecsam.
CELFYDDYDAU, MARCHNADOEDD, CYMUNED – COFRESTRWCH I DDERBYN NEWYDDION O TŶ PAWB.
Y cynllun mawr ar gyfer y diwrnod mawr
Bydd cerddoriaeth fyw a gweithgareddau sy’n addas i deuluoedd o 10am.
Yna am 2.15pm, byddwn yn tiwnio i’r Chwe Gwlad lle byddwch chi’n gallu gweld Cymru V Iwerddon ar y sgrin fawr.
Mae’r gerddoriaeth fyw yn parhau o 5pm gyda bandiau gan gynnwys Adwaith, Eitha Da, CHROMA, Worldcub, Melin Mely a Meilir..
“Rhywbeth i bob oed ei fwynhau”
Dywedodd Aelod Arweiniol Pobl – Cymunedau, Partneriaethau, Gwarchod y Cyhoedd a Diogelwch Cymunedau, y Cynghorydd Hugh Jones: “Roedd digwyddiad y llynedd yn llwyddiant ysgubol gyda channoedd o bobl o bob oed yn mwynhau gwledd o gerddoriaeth fyw wych. Rydyn ni’n disgwyl mwy o’r un peth eleni gyda hyd yn oed mwy o fandiau Cymreig gorau yn perfformio a digon o weithgareddau yn digwydd trwy gydol y dydd.
“Rydyn ni’n falch iawn o weithio gyda thîm FOCUS Wales unwaith eto i ddod â’r digwyddiad hwn i Wrecsam. Bydd rhywbeth i bawb gydag ystod eang o fandiau a pherfformwyr. Mae Wrecsam yn cyfrannu’n enfawr at y sîn gerddoriaeth Gymreig a gobeithio y bydd cymaint o bobl â phosibl yn dod i fwynhau’r dathliad rhad ac am ddim gwych hwn.”
- Mae Dydd Miwsig Cymru ei hun yn cael ei gynnal ar Chwefror 7 – bydd digwyddiad Tŷ Pawb yn cael ei gynnal drannoeth – dydd Sadwrn Chwefror 8 – rhwng 10am a hwyr.
- Nid oes angen archebu tocyn – mae mynediad AM DDIM trwy’r dydd.