Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Enillwyr Gwobr Gerddoriaeth Gymru i arwain diwrnod cerddoriaeth fyw am ddim yn Tŷ Pawb
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Arall > Enillwyr Gwobr Gerddoriaeth Gymru i arwain diwrnod cerddoriaeth fyw am ddim yn Tŷ Pawb
ArallPobl a lle

Enillwyr Gwobr Gerddoriaeth Gymru i arwain diwrnod cerddoriaeth fyw am ddim yn Tŷ Pawb

Diweddarwyd diwethaf: Ionawr 13, 2020 12:41 pm
Rhannu
Darllen 3 funud
Enillwyr Gwobr Gerddoriaeth Gymru i arwain diwrnod cerddoriaeth fyw am ddim yn Tŷ Pawb
RHANNU

Bydd enillwyr Gwobr Gerddoriaeth Cymru yn arwain digwyddiad cerddoriaeth fyw am ddim diwrnod o hyd yn Tŷ Pawb.

Cynnwys
  • Y cynllun mawr ar gyfer y diwrnod mawr
  • “Rhywbeth i bob oed ei fwynhau”

Mae Adwaith yn rhan o fil serol o fandiau gorau Cymru a fydd yn perfformio yng nghanolfan gelf Wrecsam fel rhan o Dydd Miwsig Cymru ar ddydd Sadwrn Chwefror 8.

Mae Dydd Miwisg Cymru yn ddigwyddiad blynyddol sy’n dathlu cerddoriaeth Gymraeg, gyda nifer o gyngherddau a gweithgareddau yn cael eu cynnal mewn lleoliadau ledled y wlad.

Yn dilyn llwyddiant digwyddiad y llynedd, mae Tŷ Pawb unwaith eto wedi ymuno â thîm FOCUS Wales i ddod â’r digwyddiad i Wrecsam.

CELFYDDYDAU, MARCHNADOEDD, CYMUNED – COFRESTRWCH I DDERBYN NEWYDDION O TŶ PAWB.

Y cynllun mawr ar gyfer y diwrnod mawr

Bydd cerddoriaeth fyw a gweithgareddau sy’n addas i deuluoedd o 10am.

Yna am 2.15pm, byddwn yn tiwnio i’r Chwe Gwlad lle byddwch chi’n gallu gweld Cymru V Iwerddon ar y sgrin fawr.

Mae’r gerddoriaeth fyw yn parhau o 5pm gyda bandiau gan gynnwys Adwaith, Eitha Da, CHROMA, Worldcub, Melin Mely a Meilir..

“Rhywbeth i bob oed ei fwynhau”

Dywedodd Aelod Arweiniol Pobl – Cymunedau, Partneriaethau, Gwarchod y Cyhoedd a Diogelwch Cymunedau, y Cynghorydd Hugh Jones: “Roedd digwyddiad y llynedd yn llwyddiant ysgubol gyda channoedd o bobl o bob oed yn mwynhau gwledd o gerddoriaeth fyw wych. Rydyn ni’n disgwyl mwy o’r un peth eleni gyda hyd yn oed mwy o fandiau Cymreig gorau yn perfformio a digon o weithgareddau yn digwydd trwy gydol y dydd.

“Rydyn ni’n falch iawn o weithio gyda thîm FOCUS Wales unwaith eto i ddod â’r digwyddiad hwn i Wrecsam. Bydd rhywbeth i bawb gydag ystod eang o fandiau a pherfformwyr. Mae Wrecsam yn cyfrannu’n enfawr at y sîn gerddoriaeth Gymreig a gobeithio y bydd cymaint o bobl â phosibl yn dod i fwynhau’r dathliad rhad ac am ddim gwych hwn.”

  • Mae Dydd Miwsig Cymru ei hun yn cael ei gynnal ar Chwefror 7 – bydd digwyddiad Tŷ Pawb yn cael ei gynnal drannoeth – dydd Sadwrn Chwefror 8 – rhwng 10am a hwyr.
  • Nid oes angen archebu tocyn – mae mynediad AM DDIM trwy’r dydd.

Dilynwch Tŷ Pawb ar:
Facebook
Twitter
Instagram

Cofrestrwch i dderbyn newyddion a diweddariadau gan Tŷ Pawb

Rhannu
Erthygl flaenorol Plastic Waste Riello Cwmni Lleol yn Gosod Esiampl â Chynlluniau Gwastraff Plastig
Erthygl nesaf Off Roading Gyrru oddi ar y ffordd y penwythnos hwn?  Dylech chi ddarllen hwn gyntaf

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Mayor with the Registrar team
Ystafell seremoni Neuadd y Dref yn ailagor yn swyddogol ar ôl ei hadnewyddu
Arall Pobl a lle Y cyngor
Medi 4, 2026
Derbyn i ysgolion: dyddiadau allweddol ar gyfer 2026/2027
Derbyn i ysgolion: dyddiadau allweddol ar gyfer 2026/2027
Busnes ac addysg Y cyngor
Medi 4, 2026
Football park and ride
Wrecsam v Burnley – tynnwch y straen allan o barcio ar ddiwrnod y gêm
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle
Medi 4, 2026
Penley Hospital
Ymgynghoriad ar ddyfodol gwasanaethau yn Ysbyty Llannerch Banna
Arall Pobl a lle
Medi 3, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

BetterPoints Wrecsam yn lansio gyda gwobr gwyliau gwerth £900 mewn dinas yn Ewrop
Pobl a lleY cyngor

BetterPoints Wrecsam yn lansio gyda gwobr gwyliau gwerth £900 mewn dinas yn Ewrop

Medi 3, 2026
Mae Tŷ Pawb yn cyhoeddi tymor newydd o gyngherddau amser cinio AM DDIM.
DigwyddiadauPobl a lle

Mae Tŷ Pawb yn cyhoeddi tymor newydd o gyngherddau amser cinio AM DDIM.

Medi 2, 2026
Yorke Street
ArallPobl a lle

Ydych chi’n gyrru i ganol dinas Wrecsam? Parciwch yn gyfrifol a dilynwch reolau traffig o amgylch y Stryd Fawr

Medi 1, 2026
Blue emergency services light
ArallPobl a lle

Codi baner 999 i gefnogi Diwrnod y Gwasanaethau Brys

Medi 1, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English