Erthyl gwadd – HMRC
Mae Cyllid a Thollau EM (CThEM) yn atgoffa 440,000 o gwsmeriaid credydau treth bod ganddynt fis ar ôl, i adnewyddu eu hawliadau credydau treth hyd at y dyddiad cau ar 31 Gorffennaf
Cafodd dros 2.5 miliwn o becynnau adnewyddu credydau treth blynyddol eu postio at gwsmeriaid rhwng diwedd mis Ebrill a dechrau mis Mehefin. Bydd cwsmeriaid naill ai wedi cael nodyn atgoffa awtomatig i adnewyddu neu hysbysiad a oedd yn mynnu ymateb. Mae’n rhaid i gwsmeriaid sydd wedi cael hysbysiad a oedd yn mynnu ymateb adnewyddu eu hawliadau neu gysylltu â CThEM i roi gwybod am unrhyw newid mewn amgylchiadau cyn y dyddiad cau er mwyn parhau i gael taliadau credydau treth.
Mae adnewyddu ar-lein yn gyflym ac yn hawdd. Gall cwsmeriaid fewngofnodi i GOV.UK i wirio cynnydd eu cais i adnewyddu, i gael sicrwydd bod y cais yn cael ei brosesu, ac i wybod pryd y byddant yn clywed oddi wrth CThEM. Gall cwsmeriaid hefyd ddefnyddio ap CThEM ar eu ffôn clyfar i:
- adnewyddu eu credydau treth
- gwirio’r amserlen ar gyfer talu eu credydau treth
- cael gwybod faint maent wedi’i ennill ar gyfer y flwyddyn.
Nid oes angen i gwsmeriaid roi gwybod am unrhyw ostyngiadau dros dro yn eu horiau gwaith o ganlyniad i goronafeirws. Byddant yn cael eu trin fel pe baent yn gweithio eu horiau arferol am hyd at wyth wythnos ar ôl i’r Cynllun Cadw Swyddi yn sgil Coronafeirws gau. Bydd rhaid i unrhyw unigolion hunangyflogedig, sydd wedi hawlio grant y Cynllun Cymhorthdal Incwm Hunangyflogaeth, ddatgan y taliadau grant. Chwiliwch am ‘working out your income for tax credit/self-employment’ ar GOV.UK.
Dywedodd Myrtle Lloyd, Cyfarwyddwr Cyffredinol CThEM ar gyfer Gwasanaethau i Gwsmeriaid, “Ry’n ni’n gwybod pa mor bwysig yw credydau treth i’n cwsmeriaid, felly mae bellach yn gynt ac yn haws adnewyddu hawliad ar-lein. Does dim angen i chi aros tan y diwrnod cau ar 31 Gorffennaf – ewch ati nawr drwy chwilio am ‘tax credits’ ar GOV.UK.”
Os oes newid yn amgylchiadau cwsmer a allai effeithio ar ei hawliadau am gredydau treth, mae’n rhaid iddo roi gwybod am y newid i CThEM. Mae’r rhain yn cynnwys newidiadau i’r canlynol:
• trefniadau byw
• gofal plant
• oriau gwaith, neu
• incwm (cynnydd neu ostyngiad)
Bydd cyfrifon cerdyn Swyddfa’r Post yn cau ar 30 Tachwedd 2021. I gael taliadau, mae CThEM yn atgoffa unrhyw gwsmeriaid credydau treth a Budd-dal Plant sy’n defnyddio’r cyfrif hwn i roi gwybod i CThEM am eu manylion cyfrif banc newydd. Mae CThEM yn annog cwsmeriaid i weithredu nawr i beidio colli unrhyw daliadau unwaith bod eu cyfrif Swyddfa’r Post yn cau. I gael gwybod sut i agor cyfrif banc, ewch i Gyngor ar Bopeth.
Mae CThEM yn annog Cwsmeriaid i fod yn ofalus iawn os bydd rhywun yn cysylltu’n ddirybudd gan ofyn am arian neu wybodaeth bersonol. Mae llawer o sgamiau ar led lle y mae twyllwyr yn ffonio, yn anfon neges destun neu’n anfon e-bost at gwsmeriaid gan honni eu bod yn dod oddi wrth CThEM. Os oes unrhyw amheuaeth, cynghorir cwsmeriaid i beidio ag ymateb yn uniongyrchol i unrhyw beth amheus ac i gysylltu â CThEM yn syth – chwiliwch ar GOV.UK am ‘HMRC scams’ am ragor o wybodaeth.
Mae gwneud apwyntiad i dderbyn brechlyn Covid-19 yn haws nag erioed o’r blaen.
TREFNWCH APWYNTIAD AR-LEIN