Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen 5 Gorffennaf, 2021 – diwrnod i ddweud diolch
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > 5 Gorffennaf, 2021 – diwrnod i ddweud diolch
Pobl a lle

5 Gorffennaf, 2021 – diwrnod i ddweud diolch

Diweddarwyd diwethaf: Gorffennaf 2, 2021 4:23 pm
Rhannu
Darllen 3 funud
July 5
RHANNU

Mae 5 Gorffennaf yn ddyddiad pwysig bob amser, dyma ben-blwydd y GIG. Ond eleni mae’n fwy arbennig fyth – mae hefyd yn nodi’r diwrnod cyntaf i ddathlu Gweithwyr y GIG, Gofal Cymdeithasol a’r Rheng Flaen.

Cynnwys
  • 11am – dau funud o dawelwch
  • 8pm – clapio ein harwyr a chanu clychau’r eglwys

Dros 70 mlynedd ar ôl creu’r GIG, cawsom ein hunain yn delio â phandemig byd-eang. Bu gweithwyr y GIG, ynghyd â nifer o weithwyr allweddol o’r gwasanaethau brys a chynghorau lleol, yn ogystal ag athrawon, gweithwyr siopau a gwirfoddolwyr, yn hanfodol wrth gadw ein bywydau a’r wlad i fynd.

Dyma ein cyfle ni i ddiolch i bob un o’r gweithwyr allweddol, beth bynnag fo’u proffesiwn, a chofio’r rhai a gollodd eu bywydau i Covid-19.

Trefnwch eich apwyntiad brechlyn Covid-19 ar-lein.

Trwy gydol y dydd, bydd dwy ffordd i chi nodi’r achlysur a dangos diolch a pharch.

11am – dau funud o dawelwch

Er mai diwrnod i ddathlu yw hwn, mae’n bwysig cofio’r rhai a fu’n gweithio i ddarparu gwasanaethau allweddol ar y rheng flaen ac a gollodd eu bywydau wrth wasanaethu eraill.

Trwy’r wlad, ar ôl y tawelwch, caiff Y Caniad Olaf a Reveille eu chwarae.

Yn ystod y tawelwch, fe’n hanogir hefyd i dreulio amser i gofio ysbryd arwrol Capten Syr Tom Moore, ysbrydoliaeth yn ystod y cyfnod hwn na welwyd ei debyg o’r blaen, a gododd fwy na £32 miliwn o nawdd ar gyfer NHS Charities Together (yn ogystal â chodi ein calonnau).

8pm – clapio ein harwyr a chanu clychau’r eglwys

Wrth agor ein drysau ar nosweithiau Iau trwy’r cyfnod clo, gallem glywed ein cymunedau’n clapio i ddangos eu gwerthfawrogiad i weithwyr a gofalwyr y GIG.

Ar y diwrnod cyntaf erioed hwn i ddathlu Gweithwyr y GIG, Gofal Cymdeithasol a’r Rheng Flaen, beth am i ni gymeradwyo pob un o’r bobl hynny sy’n dal i achub bywydau a chadw gwasanaethau hanfodol i fynd?

Dywedodd y Cynghorydd David Bithell, Aelod Arweiniol Iechyd a Gofal Cymdeithasol i Oedolion: “Mae’r digwyddiad hwn, sy’n ddigwyddiad blynyddol bellach, yn gyfle hyfryd i ddangos i’r gweithwyr allweddol hynny sy’n gweithio ar y rheng flaen bob dydd, pa mor ddiolchgar ydym ni. Ac mae ei gynnal eleni, ar ben-blwydd y GIG yn 73 oed yn rhoi amser i ni wirioneddol werthfawrogi gwerth ein gwasanaeth iechyd.

“Rydym wedi byw trwy fwy na blwyddyn o amseroedd hynod o anodd. Rwy’n annog pawb i gymryd rhan yn y ddau ddigwyddiad yn ystod y dydd i ddangos eu diolch, a threulio amser i gofio’r rhai a fu farw.”

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i wefan diwrnod dathlu Gweithwyr y GIG, Gofal Cymdeithasol a’r Rheng Flaen.

Mae gwneud apwyntiad i dderbyn brechlyn Covid-19 yn haws nag erioed o’r blaen.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” https://bipbc.gig.cymru/covid-19/gwybodaeth-brechlyn-covid-19/brechiad-covid-19-trefnu-apwyntiad-ar-lein/”]TREFNWCH APWYNTIAD AR-LEIN[/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Tax Credits 440,000 o gwsmeriaid credydau treth dal angen adnewyddu eu hawliadau
Erthygl nesaf Get vaccinated Cael eich bywyd yn ôl – mynnwch frechlyn

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Datblygu arloesi ffresni bwyd
Datblygu arloesi ffresni bwyd
Busnes ac addysg
Hydref 20, 2026
Trigolion Rhos yn derbyn refeniw sylweddol
Trigolion Rhos yn derbyn refeniw sylweddol
Pobl a lle
Hydref 20, 2026
Meet the Supertrees event
Digwyddiad teuluol ‘Meet the Supertrees’ yng Nghanolfan Adnoddau Gwersyllt (28 Hydref)
Pobl a lle Datgarboneiddio Wrecsam Digwyddiadau
Hydref 20, 2026
Byddwch yn ymwybodol o sgamiau’r Hydref hwn
Byddwch yn ymwybodol o sgamiau’r Hydref hwn
Pobl a lle
Hydref 20, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Ailgylchwch eich ceblau diangen ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol E-Wastraff 2026
DigwyddiadauDatgarboneiddio Wrecsam

Ailgylchwch eich ceblau diangen ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol E-Wastraff 2026

Hydref 13, 2026
Wythnos Mabwysiadu Genedlaethol 2026 – Mae Nawr yn Amser Da
Pobl a lleDigwyddiadauFideo

Wythnos Mabwysiadu Genedlaethol 2026 – Mae Nawr yn Amser Da

Hydref 20, 2026
Ty Pawb and Pittsburgh University
Pobl a lle

Wrecsam a Pittsburgh i gydweithio ar arddangosfa gelf ryngwladol newydd fawr

Hydref 12, 2026
The People’s Emergency Briefing next screening is at
DigwyddiadauDatgarboneiddio WrecsamFideo

Ydych chi wedi gwylio The People’s Emergency Briefing? Archebwch eich tocynnau ar gyfer y dangosiad nesaf (17 Hydref)

Hydref 9, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English