Mae gŵyl banc genedlaethol wedi ei chyhoeddi ar draws y DU i nodi angladd y Frenhines Elizabeth II ddydd Llun nesaf, 19 Medi.
Fel arwydd o barch a phan fo hynny’n bosibl, bydd mwyafrif gwasanaethau cyhoeddus Cyngor Wrecsam yn cau am y diwrnod.
Mae hyn yn unol â chynghorau eraill ar draws y DU.
Dywedodd y Cynghorydd Mark Pritchard, Arweinydd Cyngor Wrecsam: “Bydd angladd y Frenhines yn ddiwrnod trist a hanesyddol i’r genedl, ac fel gwasanaethau eraill ledled y DU, byddwn yn oedi ein gwasanaethau pan fo’n bosibl fel arwydd o barch.
“Roedd cymaint o bobl yn caru ac yn edmygu’r Frenhines, a bydd yr ŵyl banc yn gyfle i fyfyrio wrth i ni alaru colli brenhines arbennig iawn.”
Ysgolion
Bydd pob ysgol gynradd ac uwchradd yn y fwrdeistref sirol ar gau.
Biniau ac ailgylchu
Bydd casgliadau bin sy’n digwydd fel arfer ar ddydd Llun yn digwydd dydd Sadwrn yn lle hynny.
Felly os yw eich gwastraff a’ch ailgylchu i fod i gael ei gasglu ddydd Llun, dylech eu rhoi allan dydd Sadwrn (17 Medi).
Canolfannau ailgylchu gwastraff cartrefi
Bydd ein canolfannau gwastraff cartref ym Mrymbo, Plas Madoc ac Ystâd Ddiwydiannol ar agor.
Mae hyn yn unol â chynghorau eraill ar hyd a lled y wlad.
Llyfrgelloedd
Bydd ein llyfrgelloedd ar gau dros ŵyl y banc.
Tŷ Pawb ac Amgueddfa Wrecsam
Bydd Tŷ Pawb ac Amgueddfa Wrecsam ar gau.
Amlosgfa Pentrebychan
Bydd yr amlosgfa ar agor.
Cyswllt Wrecsam
Bydd y ganolfan gyswllt ar gau.
Bydd yr holl wasanaethau ar agor fel arfer y diwrnod canlynol (Dydd Mawrth, 20 Medi).