Mae adeilad Llyfrgell Wrecsam yn 50 oed eleni ac rydym ni wedi gofyn ichi ddweud wrthym am eich atgofion o’r llyfrgell dros y blynyddoedd.
Ond beth am yr adeilad ei hun? Beth yw hanes hwnnw?
Dyma ambell ffaith am yr adeilad na fyddech chi efallai yn eu gwybod:
- cymerodd bron flwyddyn a hanner i’w adeiladu, gan gychwyn ym Mehefin 1971, ac fe symudodd y gwasanaeth llyfrgell yno o’r diwedd ym mis Rhagfyr 1972
- fe gostiodd £178,000 i’w adeiladu
- cafodd ei ddylunio gan y pensaer James A Roberts a’i adeiladu gan RM Douglas Construction Ltd
- cafodd ei adeiladu’n bwrpasol fel Llyfrgell Wrecsam
- pan gafodd ei hagor, roedd yr adeilad oedd yn sownd wrthi (yr orsaf heddlu bellach) yn dal i gael ei adeiladu
- James Idwal Jones (cyn AS Wrecsam) a agorodd y llyfrgell yn swyddogol, a fo oedd Cadeirydd y Pwyllgor Llyfrgelloedd Cyhoeddus
Oes gennych chi unrhyw ffeithiau y gallech eu hychwanegu i’r rhestr? Fe fyddem wrth ein boddau’n clywed gennych chi ac efallai y gwnawn ni eu defnyddio yn rhan o’n harddangosfa 50 mlwyddiant yn nes ymlaen eleni. Cysylltwch â Llyfrgell Wrecsam ar library@wrexham.go.uk neu 01978 292090 i roi gwybod i ni.
Talu i wagio eich bin gwyrdd 2022/23.
TALU NAWR