Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Mae Llyfrgell Wrecsam yn 50 mlwydd oed! Beth yw eich atgofion chi?
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Arall > Mae Llyfrgell Wrecsam yn 50 mlwydd oed! Beth yw eich atgofion chi?
ArallPobl a lleY cyngor

Mae Llyfrgell Wrecsam yn 50 mlwydd oed! Beth yw eich atgofion chi?

Diweddarwyd diwethaf: Mehefin 15, 2022 1:42 pm
Rhannu
Darllen 2 funud
Learning at Lunchtime
RHANNU

Bydd adeilad Llyfrgell Wrecsam yn 50 mlwydd oed eleni!

Cynnwys
  • A oes gennych chi stori i’w hadrodd am y llyfrgell?
  • A oes gennych luniau neu eitemau cofiadwy?

Ym mis Rhagfyr 1972, agorodd Llyfrgell Wrecsam ei drysau i drigolion Wrecsam. Ar y pryd, roedd llyfrgell gerdd yno, mannau astudio ar gyfer astudiaeth breifat a llyfrgell i blant (ynghyd â’r pwll plant!).

I ddathlu rydym yn cynnal arddangosfa i ddangos Llyfrgell Wrecsam dros y blynyddoedd, ac rydym angen eich cymorth chi er mwyn sicrhau ei bod yn dangos popeth sydd wedi gwneud y llyfrgell yn arbennig i breswylwyr Wrecsam ers iddi agor.

Derbyniwch newyddion a gwybodaeth gan eich cyngor lleol – cofrestrwch i dderbyn bwletinau ar ffurf e-bost.

A oes gennych chi stori i’w hadrodd am y llyfrgell?

Efallai ei bod yn dod ag atgofion teuluol annwyl yn ôl? A ydych yn cofio eich ymweliad cyntaf? Efallai eich bod wedi gweld y llyfrgell yn agor? Rydych wedi cyfarfod eich darpar bartner yno, o bosibl? Beth bynnag fo’ch stori, hoffem ei chlywed gennych.

A oes gennych luniau neu eitemau cofiadwy?

A oes gennych ffotograffau o’r llyfrgell dros y blynyddoedd y byddech yn hoffi eu gweld yn rhan o’r arddangosfa? Efallai bod gennych rai eitemau cofiadwy – tystysgrifau, cardiau llyfrgell gwreiddiol neu daflenni digwyddiadau?

Os oes gennych stori neu rywbeth a ellid ei ddefnyddio yn yr arddangosfa, gellwch ddod â fo i’ch llyfrgell leol, ffoniwch ni ar 01978 292090, neu e-bostiwch library@wrexham.gov.uk.

Anfonwch eich lluniau, eitemau ac atgofion cyn diwedd mis Hydref, os gwelwch yn dda (ond gorau po gyntaf, gan ein bod yn edrych ymlaen at gael eu gweld a’u clywed!).

Dangosir yr arddangosfa yn ddiweddarach eleni, pan fydd digonedd o ddigwyddiadau yn ogystal i ddathlu.

Cadwch olwg ar y blog hwn am fwy o wybodaeth ynglŷn â phen-blwydd adeilad Llyfrgell Wrecsam yn 50.

Derbyniwch ein prif straeon dros e-bost.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”https://public.govdelivery.com/accounts/UKWCBC_CY/subscriber/new?topic_id=UKWCBC_CY_5″]TANYSGRIFWYCH[/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Blood Donor Rhowch waed, achubwch fywydau – Gwnewch rywbeth cofiadwy’r Wythnos Genedlaethol Rhoddwyr Gwaed hon.
Erthygl nesaf Wales and the Battle of Britain Mae Arddangosfa Taith Cymru a Brwydr Prydain yn agor heddiw!

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Datblygu arloesi ffresni bwyd
Datblygu arloesi ffresni bwyd
Busnes ac addysg
Hydref 20, 2026
Trigolion Rhos yn derbyn refeniw sylweddol
Trigolion Rhos yn derbyn refeniw sylweddol
Pobl a lle
Hydref 20, 2026
Meet the Supertrees event
Digwyddiad teuluol ‘Meet the Supertrees’ yng Nghanolfan Adnoddau Gwersyllt (28 Hydref)
Pobl a lle Datgarboneiddio Wrecsam Digwyddiadau
Hydref 20, 2026
Byddwch yn ymwybodol o sgamiau’r Hydref hwn
Byddwch yn ymwybodol o sgamiau’r Hydref hwn
Pobl a lle
Hydref 20, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Ailgylchwch eich ceblau diangen ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol E-Wastraff 2026
DigwyddiadauDatgarboneiddio Wrecsam

Ailgylchwch eich ceblau diangen ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol E-Wastraff 2026

Hydref 13, 2026
Cadwch yn ddiogel yn ystod tymor tân gwyllt: Dewiswch ddigwyddiadau sydd wedi'u trefnu
Y cyngor

Cadwch yn ddiogel yn ystod tymor tân gwyllt: Dewiswch ddigwyddiadau sydd wedi’u trefnu

Hydref 20, 2026
Wythnos Mabwysiadu Genedlaethol 2026 – Mae Nawr yn Amser Da
Pobl a lleDigwyddiadauFideo

Wythnos Mabwysiadu Genedlaethol 2026 – Mae Nawr yn Amser Da

Hydref 20, 2026
Ty Pawb and Pittsburgh University
Pobl a lle

Wrecsam a Pittsburgh i gydweithio ar arddangosfa gelf ryngwladol newydd fawr

Hydref 12, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English