Petai rhywun yn gofyn i chi “Beth allwch chi ei wneud yn eich llyfrgell leol” – beth fyddai eich ateb?
Efallai bod rhai ohonoch chi’n meddwl nad oes llawer mwy i’w wneud yn ein llyfrgelloedd na benthyg, darllen a dychwelyd llyfrau…rydym ni yma i ddweud wrthych eich bod yn anghywir!
I ddangos hyn rydym wedi llunio rhestr o rai o’r digwyddiadau gwefreiddiol a fydd yn cael eu cynnal yn fuan yn llyfrgelloedd ein sir.
Grŵp Darllen Cymraeg
Ydych chi’n aelod o gymuned Cymraeg Wrecsam? Ydych chi’n chwilio am siaradwyr Cymraeg eraill i rannu eich profiadau darllen â nhw? Yna does dim rhaid i chi chwilio ymhellach.
Byddai Llyfrgell Rhiwabon wrth eu boddau’n eich gwahodd i gyfarfod, ddydd Llun, 3 Mehefin, am 3pm, i drafod dechrau grŵp darllen Cymraeg.
Bydd y grŵp hwn yn canolbwyntio ar lenyddiaeth Cymraeg, i gyd-fynd â’r Grŵp Darllen cyfredol. I gael rhagor o wybodaeth, ffoniwch 01978 822002.
Grŵp Babanod a Phlant Bach
Pa ffordd well o ddechrau’r wythnos na gadael i’ch plant redeg o gwmpas am ychydig oriau tra rydych chi’n cael eistedd i lawr a mwynhau paned cynnes gyda rhieni eraill sydd yr un mor flinedig? Does dim.
Cynhelir sesiynau yn llyfrgell Y Waun bob dydd Llun am 9am ac maent yn ffordd wych i chi a’ch plant gwrdd â phobl eraill sydd â diddordeb mewn darllen.
Bydd staff wrth law i’ch helpu i ddewis llyfrau i chi â’ch plant ddarllen hefyd!
Newyddion y Grŵp Darllen
Bydd grwpiau darllen yn cyfarfod yr wythnos nesaf yn Llyfrgell Rhos ar ddydd Llun, 3 Mehefin, 2-3pm, yn Llyfrgell Y Waun ddydd Mawrth, 4 Mehefin, 2-3pm; ac yn llyfrgell Rhiwabon ddydd Mercher, 5 Mehefin am 2.15pm.
Mae ein manylion cyswllt i’w cael ar ein gwefan.
Clwb Plant Llyfrgell Coedpoeth
Gall eich plant ddisgwyl sawl peth o Glwb Plant Llyfrgell Coedpoeth – crefftau, lliwio, posau a llawer o hwyl; yn sicr, nid yw’n un i’w fethu!
Cynhelir y sesiwn am ddim ddydd Mawrth, 4 Mehefin, rhwng 3.30pm a 4.15pm ac mae’n rhaid i oedolion fod gyda plant rhwng 3 a 8 mlwydd oed.
Sesiynau Sgwrsio, Iaith a Chwarae yn eich Llyfrgell Leol
Cynhelir sesiynau Sgwrsio, Iaith a Chwarae i rieni a phlant rhwng 0-2 oed yr wythnos nesaf yn llyfrgell Gwersyllt ddydd Mercher, 5 Mehefin rhwng 10am a 11.15am ac yna cynhelir sesiwn yn nes ymlaen yn y diwrnod yn llyfrgell Llai rhwng 1pm a 2.15pm. Cynhelir sesiwn yn llyfrgell Brynteg ar ddydd Gwener 7 Mehefin rhwng 1pm a 2.15pm.
Dyluniwyd y sesiynau am ddim yma i blant 0-2 oed ac mae’n gyfle iddynt rannu straeon, siarad, chwarae, canu caneuon, ac yn bwysicach na dim, mae’n gyfle iddynt gael hwyl. Does dim rhaid archebu, y cyfan sydd angen i chi ei wneud ydi bod yn bresennol.
Crefft Memrwn a Phrintio Diemwntau 5D
Ydych chi’n chwilio am hobi newydd? Ydych chi’n chwilio am rywbeth i’w wneud ar ddydd Iau? Yna mae gennym newyddion da i chi!
Mae Llyfrgell Llai yn cynnal grŵp crefftau am ddim bob dydd Iau, 1-3pm – beth am ddod draw i roi cynnig ar rywbeth newydd?
GWNEWCH GAIS AR-LEIN RŴAN