Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Yr Iaith Gymraeg a Ni
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > Yr Iaith Gymraeg a Ni
Y cyngor

Yr Iaith Gymraeg a Ni

Diweddarwyd diwethaf: Mehefin 6, 2019 3:11 pm
Rhannu
Darllen 4 funud
Yr Iaith Gymraeg a Ni
RHANNU

Fel awdurdod lleol yng Nghymru fe fyddech yn disgwyl i ni ddefnyddio’r iaith Gymraeg. Wyddoch chi fod gofyniad cyfreithiol arnom ni i ddarparu gwasanaeth llwyr ddwyieithog i chi – ein cwsmeriaid?

Y rheswm dros hyn yw oherwydd ein bod ni bellach wedi sefydlu safonau iaith Gymraeg yn dilyn Mesur yr Iaith Gymraeg (Cymru) 2011 a wnaeth y Gymraeg yn iaith swyddogol yng Nghymru.

Mae hyn yn golygu na ddylid trin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg. Mae’r Safonau yn gyfres o ofynion sy’n rhwymo’n gyfreithiol a sefydlwyd ar 30 Mawrth 2016.

GWNEWCH GAIS AM GLUDIANT I’R YSGOL YM MIS MEDI RŴAN!

Mae’n rhaid i ni hefyd adrodd yn flynyddol ar ein cynnydd o ran cydymffurfio â’r Safonau ac yn ddiweddar cymeradwyodd ein Bwrdd Gweithredol ein Hadroddiad Monitro’r Iaith Gymraeg Blynyddol a oedd yn rhoi sylw i feysydd darpariaeth gwasanaeth, gweithredol a llunio polisïau.

“Angen gwella mewn rhai meysydd“

Dros y 12 mis diwethaf rydym wedi gwneud cynnydd dda ac wedi bod yn recriwtio’n llwyddiannus i swyddi Cymraeg yn hanfodol ac yn darparu rhaglen gynhwysfawr o ddigwyddiadau Cymraeg drwy gydol y flwyddyn.

Dros y 12 mis diwethaf rydym wedi gwneud cynnydd gweddol dda ac wedi bod yn recriwtio’n llwyddiannus i swyddi Cymraeg yn hanfodol ac yn darparu rhaglen gynhwysfawr o ddigwyddiadau Cymraeg drwy gydol y flwyddyn.

Fodd bynnag, mae angen o hyd i ni wella mewn rhai meysydd ac mae cwynion gan y cyhoedd wedi tynnu sylw at achosion lle ryda’ ni wedi methu. Mae pob cwyn yn cael ei hymchwilio ac os daw i’r amlwg ein bod ni wedi gwneud rhywbeth o’i le, rydym yn cydnabod hynny ac yn unioni’r mater.

Byddwn yn parhau i wneud staff yn ymwybodol o bwysigrwydd y Safonau ac i gynnig gwasanaeth gwirioneddol ddwyieithog.

Yn ogystal mae’r safonau’n cynnal un o nodau Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 sef:  “Cymru â diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu”.  Mae hyn hefyd yn cefnogi ein nod ni o barhau i wella’r modd yr ydym yn darparu gwasanaeth dwyieithog.

Mae pobl wedi gofyn i ni pam na allwn ni ddefnyddio google translate? Er bod google translate wedi gwella dros y blynyddoedd diwethaf dydi o dal ddim digon da i sicrhau Cymraeg o safon dderbyniol a byddwn yn parhau i ddefnyddio ein cyfieithwyr yng Nghonwy sy’n darparu gwasanaeth gwerth chweil.

Meddai’r Cynghorydd Hugh Jones, Aelod Arweiniol Cymunedau, Diogelu’r Cyhoedd a Diogelwch Cymunedol: “Er ein bod ni wedi gwneud cynnydd da dros y 12 mis diwethaf mae ‘na heriau ac enghreifftiau o ddiffyg cydymffurfedd o hyd a byddwn yn dal ati i ymchwilio’n drylwyr i achosion o’r fath ac yn gweithredu ble bo angen.”

Gallwch gael golwg ar ein Hadroddiad Monitro’r Iaith Gymraeg Blynyddol yma.

A fydd angen cludiant i’r ysgol arnoch ym mis Medi? Gwnewch gais ar-lein rŵan

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” https://admissions.wrexham.gov.uk/CitizenPortal_Live/Account/Login?ReturnUrl=%2FCitizenPortal_Live%2F%E2%80%9D”] GWNEWCH GAIS AR-LEIN RŴAN [/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Order and Collect 6 pheth gwych y gallwch eu gwneud yn eich llyfrgell
Erthygl nesaf Niferoedd y rhai dan 16 sy’n nofio am ddim bron â dyblu Niferoedd y rhai dan 16 sy’n nofio am ddim bron â dyblu

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Wrecsam a Pittsburgh i gydweithio ar arddangosfa gelf ryngwladol newydd fawr
Wrecsam a Pittsburgh i gydweithio ar arddangosfa gelf ryngwladol newydd fawr
Pobl a lle
Hydref 12, 2026
Mae gennym lu o swyddi gwag newydd i chi eu chwilio...
Mae gennym lu o swyddi gwag newydd i chi eu chwilio…
Busnes ac addysg
Hydref 9, 2026
Apêl cotiau gaeaf i blant 2026
Apêl cotiau gaeaf i blant 2026
Y cyngor
Hydref 9, 2026
Helpwch i ddatgelu hanes sinemâu a theatrau Wrecsam
Helpwch i ddatgelu hanes sinemâu a theatrau Wrecsam
Y cyngor Digwyddiadau
Hydref 9, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau gwastraff ac ailgylchu yn Wrecsam
Y cyngor

Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau gwastraff ac ailgylchu yn Wrecsam

Hydref 9, 2026
Horace outside Wrexham Library
FideoPobl a lleY cyngor

Braw i bawb yn Llyfrgell Wrecsam

Hydref 8, 2026
Housing Image
Y cyngor

Adran Tai Cyngor Wrecsam yn parhau i ymrwymo i Safonau Ansawdd Tai Cymru

Hydref 7, 2026
Occupational Therapy Week poster
DigwyddiadauPobl a lleY cyngor

Digwyddiad gwybodaeth i arddangos gwasanaethau cymdeithasol yn ystod Wythnos Therapi Galwedigaethol

Hydref 1, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English