Rydym yn falch o ddweud bod wyth ardal yn Wrecsam wedi ennill Gwobr y Faner Werdd unwaith eto.
Mae baneri’n cael eu rhoi i ardaloedd sydd â chyfleusterau gwych i ymwelwyr, safonau amgylcheddol uchel ac yn ymrwymo i ddarparu mannau gwyrdd o safon.
Bydd Parc Acton, Parc Gwledig Dyfroedd Alun, y Parciau, Parc Ponciau, Parc Gwledig Tŷ Mawr a Mynwent Wrecsam ynghyd ag enillwyr y wobr gymunedol, Maes y Pant a Phlas Pentwyn, oll yn chwifio’u baneri am y 12 mis nesaf.
Derbyniwch newyddion a gwybodaeth gan eich cyngor lleol – cofrestrwch i dderbyn bwletinau ar ffurf e-bost.
Dywedodd y Cynghorydd Hugh Jones, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd, “Unwaith eto, rydym yn hynod falch o rannu’r newyddion da am ein parciau gwledig hyfryd a’n mannau gwyrdd. Mae’n rhaid canmol y staff a’r gwirfoddolwyr sy’n treulio oriau lawer yn sicrhau eu bod yn parhau i fod mewn cyflwr ardderchog ar gyfer y miloedd o ymwelwyr sy’n ymweld yn flynyddol.
“Gwerthfawrogir eu gwaith yn benodol eleni yn dilyn llawer o stormydd ym mis Chwefror a achosodd ddifrod sylweddol i goed a chafodd yr ardaloedd eu harchwilio a’u glanhau yn dilyn hynny, er mwyn sicrhau eu bod yn ddiogel a deniadol i ymwelwyr o hyd.”
“Diogelir deg o’n parciau gwledig hefyd ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol o dan y fenter Mannau Gwyrdd Agored a weithredir gan Meysydd Chwarae Cymru, sy’n sicrhau y bydd yr ardaloedd yn parhau i fod yn rhai y gall y cyhoedd eu mwynhau am genedlaethau i ddod.”
Mae rhaglen Gwobr y Faner Werdd yn cael ei chynnal yng Nghymru gan yr elusen amgylcheddol, Cadwch Gymru’n Daclus, gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru. Bu arbenigwyr mannau gwyrdd annibynnol yn gwirfoddoli eu hamser i feirniadu safleoedd yr ymgeiswyr yn ôl wyth maen prawf pendant, gan gynnwys bioamrywiaeth, glendid, rheolaeth amgylcheddol a chynnwys y gymuned.
Gellir gweld rhestr lawn o enillwyr y wobr ar wefan Cadwch Gymru’n Daclus.
Derbyniwch ein prif straeon dros e-bost.
TANYSGRIFWYCH