Blue Badge

O ddydd Llun 1 Awst 2022 ymlaen, ni fydd deiliaid Bathodyn Glas bellach yn gorfod talu am barcio ym meysydd parcio’r Cyngor yn Wrecsam.

Derbyniwch newyddion a gwybodaeth gan eich cyngor lleol – cofrestrwch i dderbyn bwletinau ar ffurf e-bost.

Y meysydd parcio lle mae hyn yn berthnasol iddynt yw:

  • Ffordd y Cilgant
  • Neuadd y Dref
  • Y Llyfrgell
  • Stryt y Farchnad
  • Cilgant San Siôr
  • San Silyn
  • Canolfan Byd Dŵr
  • Tŷ Pawb
  • Gorsaf Rhiwabon
  • Parc Technoleg Wrecsam

Dywedodd y Cyng. Mark Pritchard, Arweinydd y Cyngor, “Rwy’n falch iawn ein bod wedi gallu tynnu’r ffioedd ar gyfer gyrwyr anabl. Mae canol y dref yn parhau i fod yn hygyrch i bawb beth bynnag eu hanabledd.

“Rydym hefyd yn cynnig parcio am ddim i bawb o 11am bob dydd mewn meysydd parcio sy’n eiddo i’r cyngor, oni bai am Tŷ Pawb, felly gallwch ymweld a chymryd mantais o‘n masnachwyr annibynnol a lleoliadau lletygarwch gwych.”

Derbyniwch ein prif straeon dros e-bost.

TANYSGRIFWYCH