Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Mae Helen ar y brig gyda’i llun o Barc Acton
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Mae Helen ar y brig gyda’i llun o Barc Acton
Pobl a lle

Mae Helen ar y brig gyda’i llun o Barc Acton

Diweddarwyd diwethaf: Gorffennaf 11, 2017 5:27 pm
Rhannu
Darllen 2 funud
Mae Helen ar y brig gyda’i llun o Barc Acton
RHANNU

Llongyfarchiadau i Helen Roberts sydd wedi ennill cystadleuaeth Calendr Rhyfeddodau Wrecsam mis Mehefin.

Tynnodd Helen y llun ar ddiwedd prynhawn hir yn y parc gyda’i ffrindiau a’i theulu. Roedd y beirniaid yn teimlo fod y llun yn cyfleu hanfod y dyddiau hir cynnes hynny a gawsom ym mis Mehefin pan oedd y barbeciws allan bron bob nos. Mae’n teimlo’n bell yn ôl rŵan!

GALLWCH GAEL NEWYDDION A GWYBODAETH AR UNWAITH GAN GYNGOR WRECSAM GYDA FY NIWEDDARIADAU.

Meddai Helen

“Mae Parc Acton yn agos iawn at fy nghalon i. Mae’r llun yma yn un o’r rheiny pan ‘da chi wirioneddol yn llwyddo i gyfleu hanfod yr awyrgylch ar y pry, a ‘dw i mor falch mod i wedi ennill. Rydw i wedi anfon sawl llun i’r gystadleuaeth ond hwn ydi fy ffefryn felly dwi’n falch fod y beirniaid wedi cytuno efo fi. Dwi’n edrych ymlaen yn ofnadwy at weld y calendr terfynol ac yn dymuno’n dda i ffotograffwyr amatur eraill gyda’u cynigion.”

Nodweddion disglair Wrecsam

Nod y gystadleuaeth yw rhoi’r sylw haeddiannol i lefydd amlwg a chudd o amgylch Wrecsam sy’n agos at ein calonnau ni. Dewisir un enillydd bob mis a bydd y llun buddugol yn ymddangos ar dudalen y mis hwnnw yng Nghalendr 2018.

Hyd yma mae llawer ohonoch chi wedi anfon eich hoff ffotograffau i mewn a hoffem weld mwy fyth yn cyrraedd ar gyfer cystadleuaeth mis Gorffennaf.

Dylid anfon lluniau at ‘calendar@wrexham.gov.uk’ a rhaid iddyn nhw ein cyrraedd ni cyn diwrnod ola’r mis.

Does dim gwobr i’r enillwyr, ond bydd y 12 yn cael copi o galendr y flwyddyn nesaf gyda’u llun a’u henw arno.

Bydd yr holl elw o werthiant y calendr yn cael ei gyflwyno i’r elusennau a ddewiswyd gan y Maer.

Mae telerau ac amodau ar gael ar wefan y Cyngor www.wrexham.gov.uk

Rhannu
Erthygl flaenorol Caru cerddoriaeth? Mae'r cyfan yn digwydd ym Mharc y Ponciau Caru cerddoriaeth? Mae’r cyfan yn digwydd ym Mharc y Ponciau
Erthygl nesaf Y hen a’r newydd yn dod at ei gilydd ym Mhenycae Y hen a’r newydd yn dod at ei gilydd ym Mhenycae

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Guildhall
Cyngor Wrecsam yn ymateb i’r sylw diweddar yn y cyfryngau ar Lwyneinion a thomen wastraff Monsanto gerllaw
Arall
Awst 14, 2026
Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau bysiau yn Wrecsam
Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau bysiau yn Wrecsam
Datgarboneiddio Wrecsam Y cyngor
Awst 14, 2026
Myfyrwyr yn Ysgol Maelor, Llannerch Banna, yn dathlu eu canlyniadau Safon Uwch heddiw! (13.8.26)
Diwrnod canlyniadau Safon Uwch 2026 – Llongyfarchiadau i’n holl fyfyrwyr
Arall Busnes ac addysg Pobl a lle
Awst 13, 2026
Teithio diwrnod gêm newydd i gefnogwyr Clwb Pêl-droed Wrecsam
Teithio diwrnod gêm newydd i gefnogwyr Clwb Pêl-droed Wrecsam
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle
Awst 12, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Britain in Bloom Wrecsam 2026
Pobl a lle

Wrecsam yn croesawu’r beirniaid ar gyfer Britain in Bloom eleni

Awst 11, 2026
Wrecsam Cyffredinol Wrexham General
Datgarboneiddio WrecsamPobl a lle

Uwchraddio’r rheilffyrdd ar gyfer Gogledd Cymru ac ardal y ffin

Awst 10, 2026
Family Zone at the Wellbeing Hub
DigwyddiadauPobl a lle

Cofiwch – mae’r Parth Teulu yn cynnal sesiynau chwarae wythnosol am ddim drwy gydol gwyliau’r ysgol

Awst 10, 2026
Wrecsam2029 yn pwyso chwarae ar gyflwyno cais i Wrecsam Ddod yn Ddinas Diwylliant y Du gyntaf Cymru
FideoPobl a lleY cyngor

Wrecsam2029 yn pwyso chwarae ar gyflwyno cais i Wrecsam Ddod yn Ddinas Diwylliant y Du gyntaf Cymru

Awst 7, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English