Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen “Newid pwysig i Wrecsam” – cyngor yn croesawu datganiad am hwb trafnidiaeth newydd
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Rhybudd tywydd - 19-20 Awst
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Busnes ac addysg > “Newid pwysig i Wrecsam” – cyngor yn croesawu datganiad am hwb trafnidiaeth newydd
Busnes ac addysgFideo

“Newid pwysig i Wrecsam” – cyngor yn croesawu datganiad am hwb trafnidiaeth newydd

Diweddarwyd diwethaf: Gorffennaf 19, 2018 11:03 am
Rhannu
Darllen 4 funud
RHANNU

Mae’r Gogledd-ddwyrain yn elwa ar ffrwyth swyddi o ansawdd da a buddsoddi mewn seilwaith, diolch i’r polisïau sy’n sail i Gynllun Gweithredu newydd Llywodraeth Cymru ar yr Economi. Dyna fydd neges Ysgrifennydd yr Economi a Seilwaith, Ken Skates, heddiw i arweinwyr busnesau yn Wrecsam heddiw.

Cynnwys
  • “Cyfleoedd newydd a chyffrous ar gyfer swyddi a thwf masnachol”
  • “Gallai hyn weddnewid Wrecsam”
  • “Bydd Wrecsam wedi’i gweddnewid”

Cynlluniau ar gyfer Hyb Trafnidiaeth a Busnes newydd yn Wrecsam, agor uned fusnes newydd i Trafnidiaeth Cymru, Canolfan Entrepreneuriaeth Busnes Cymru ac agor pencadlys newydd Banc Datblygu Cymru – dyna rai o’r manteision sydd wedi dod i’r rhanbarth o ganlyniad i’r Cynllun Gweithredu ar yr Economi.

WEDI GWELD TIPIO ANGHYFREITHLON? GADEWCH I NI WYBOD YN SYTH AC YN HAWDD YMA.

“Cyfleoedd newydd a chyffrous ar gyfer swyddi a thwf masnachol”

Mewn araith am y Cynllun Gweithredu ar yr Economi wrth gynulleidfa o bobl fusnes yn swyddfeydd Moneypenny yn Wrecsam, dywedodd Ysgrifennydd yr Economi: “Mae’n Cynllun Gweithredu ar yr Economi’n glir ynghylch ein ffocws ar fuddsoddi arian cyhoeddus at ddibenion cymdeithasol, ar werth gweithio mewn partneriaeth ac ar ein hymrwymiad llwyr i ddatblygu cryfderau economaidd ein rhanbarthau.

“O gofio hynny, mae’n bleser gen i gyhoeddi y bydd Llywodraeth Cymru’n gweithio gyda Trafnidiaeth Cymru, Cyngor Wrecsam a Phrifysgol Glyndŵr ar gynlluniau i ddatblygu Hyb Trafnidiaeth a Busnes newydd i integreiddio’r ardal o gwmpas Gorsaf Ganolog Wrecsam yn llwyr.

“O dan gytundeb partneriaeth newydd, bydd yr holl garfannau’n gweithio gyda’i gilydd i ddatblygu cynllun i wella a chymhathu’r cysylltiadau cludiant yn yr orsaf a’i chyffiniau a chreu cyfleoedd newydd a chyffrous ar gyfer swyddi a thwf masnachol.

“Gyda chyfarfod cynta’r bartneriaeth ar fin digwydd ym mis Medi, rwy’n disgwyl ymlaen at allu dangos hynt y gwaith.

“Mae’n bleser imi gael cadarnhau bod Trafnidiaeth Cymru’n agor uned fusnes ar gyfer y Gogledd yn Wrecsam, gan greu 30 o swyddi newydd cyn diwedd 2019.”

“Gallai hyn weddnewid Wrecsam”

Wrth siarad am y cynlluniau ar gyfer Wrecsam, dywedodd y Cynghorydd Mark Pritchard, Arweinydd Cyngor Wrecsam: “Gallai hyn weddnewid Wrecsam gan gael effaith aruthrol ar ein heconomi.

“Mae cysylltiadau cludiant da yn rhan hanfodol o economi iach, er mwyn helpu busnesau i gadw mewn cysylltiad â’u cyflenwyr, cleientiaid a gweithwyr a chreu mwy o gyfleoedd gwaith i bobl trwy eu galluogi i gymudo a theithio i’r gwaith.

“Dyma gyfle aruthrol i’r sir ac mae’n enghraifft wych o’r cyngor, Llywodraeth Cymru, Prifysgol Glyndŵr a chyrff eraill yn gweithio gyda’i gilydd er lles pobl Wrecsam a’r Gogledd.”

“Bydd Wrecsam wedi’i gweddnewid”

Dywedodd yr Athro Maria Hinfelaar, Is-Ganghellor Prifysgol Glyndŵr Wrecsam: “Mae’r cynigion hyn yn rhai cyffrous ac yn dod ar adeg dyngedfennol i Wrecsam. Fel Prifysgol, rydyn ni newydd ddadorchuddio ein Strategaeth 2025 gwerth £60 miliwn ar gyfer ein campws fydd yn creu amgylchedd dysgu pwrpasol a deniadol ar gyfer ein myfyrwyr – gan ddod â manteision helaeth i’r ardal gyfan hefyd.

“Mae’n newyddion da i Wrecsam bod ein cynlluniau’n ategu rhai Llywodraeth Cymru a gyhoeddwyd heddiw ar gyfer buddsoddi a gwella seilwaith. Rydyn ni’n falch iawn o gael gweithio gyda nhw, Cyngor Wrecsam a Thrafnidiaeth Cymru i roi hwb i’n tref a’n rhanbarth. Ymhen ychydig flynyddoedd, bydd Wrecsam wedi’i gweddnewid.”

Dywedodd Ysgrifennydd yr Economi hefyd bod gwaith Ardal Fenter Glannau Dyfrdwy yn cael ei estyn i sicrhau parhad a dilyniant ac er mwyn newid yn rhwydd i gyfrwng ehangach o gefnogi datblygiad yr economi yn Sir y Fflint a Wrecsam, gan ddilyn esiampl uno dwy Ardal Fenter yn y Gogledd-orllewin flwyddyn nesaf.

Wedi gweld tipio anghyfreithlon? Gadewch i ni wybod ar-lein.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” http://www.wrexham.gov.uk/welsh/env_services/community_services/flytipping.htm “] DDWEDWCH WRTHYM AM DIPIO ANGHYFREITHLON AR-LEIN [/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Wrexham school boys football champions Gyflwyno Gwobrau i Bencampwyr Cymru!
Erthygl nesaf Plas Pentwyn yn ennill Gwobr Gymunedol y Faner Werdd Plas Pentwyn yn ennill Gwobr Gymunedol y Faner Werdd

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

St Mark's Car Park in Wrexham
Paratoadau ar y gweill ar gyfer adeiladu parc bysus yng nghanol dinas Wrecsam
Pobl a lle
Awst 19, 2026
Staff y Cyngor yn codi dros £325 ar gyfer Bore Coffi Macmillan
Staff y Cyngor yn codi dros £325 ar gyfer Bore Coffi Macmillan
Y cyngor
Awst 18, 2026
Car park
Wrecsam yn erbyn Watford – cynlluniwch eich taith🚗🚌
Digwyddiadau Pobl a lle
Awst 17, 2026
Wrecsam Cyffredinol Wrexham General
Cau rheilffyrdd yn Wrecsam: Yr hyn y mae angen i deithwyr ei wybod
Pobl a lle
Awst 17, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Myfyrwyr yn Ysgol Maelor, Llannerch Banna, yn dathlu eu canlyniadau Safon Uwch heddiw! (13.8.26)
ArallBusnes ac addysgPobl a lle

Diwrnod canlyniadau Safon Uwch 2026 – Llongyfarchiadau i’n holl fyfyrwyr

Awst 13, 2026
Water
ArallFideo

Arhoswch yn ddiogel o amgylch y dŵr

Awst 11, 2026
Wrecsam2029 yn pwyso chwarae ar gyflwyno cais i Wrecsam Ddod yn Ddinas Diwylliant y Du gyntaf Cymru
FideoPobl a lleY cyngor

Wrecsam2029 yn pwyso chwarae ar gyflwyno cais i Wrecsam Ddod yn Ddinas Diwylliant y Du gyntaf Cymru

Awst 7, 2026
Groundwork
Busnes ac addysgPobl a lleY cyngor

Eisiau dysgu rhywbeth newydd? Mae disgwyl i Groundwork Gogledd Cymru ddarparu dosbarthiadau dysgu cymunedol AM DDIM ar draws Wrecsam a Sir y Fflint

Gorffennaf 22, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English