Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Ffordd newydd i bobl ifanc gael dweud eu dweud yng Nghymru
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Busnes ac addysg > Ffordd newydd i bobl ifanc gael dweud eu dweud yng Nghymru
Busnes ac addysgPobl a lle

Ffordd newydd i bobl ifanc gael dweud eu dweud yng Nghymru

Diweddarwyd diwethaf: Medi 18, 2018 11:05 am
Rhannu
Darllen 3 funud
Ffordd newydd i bobl ifanc gael dweud eu dweud yng Nghymru
RHANNU

Senedd Ieuenctid Cymru – Un Lle, Pob Llais

Mae ffordd gwbl newydd i bobl ifanc gael dweud eu dweud ar yr hyn sy’n bwysig iddynt yng Nghymru.

Mae Senedd Ieuenctid Cymru yn llwyfan i sicrhau bod lleisiau ifanc yn cael eu clywed, gyda 60 o bobl ifanc rhwng 11 ac 18 oed ar fin dod yn Aelodau o Senedd Ieuenctid Cymru. Bydd  pobl ifanc yn dewis 40 ohonynt drwy bleidleisio drostynt yn yr etholiad ym mis Tachwedd 2018. Bydd yr 20 sydd ar ôl yn cael eu dewis gan sefydliadau partner.

Mae dod â’r Senedd at ei gilydd yn y modd hwn yn sicrhau bod cynrychiolaeth o amrywiaeth eang o grwpiau o bobl ifanc o bob rhan o Gymru.

PLANT MEWN YSGOL? DARGANFYDDWCH MWY AM YMGEISIO AM HELP I DALU AT GOSTAU GWISG YSGOL A FWY…

Dywedodd y Cyng. Andrew Atkinson, Aelod Arweiniol Gwasanaethau Ieuenctid a Gwrth-dlodi: “Mae hon yn ffordd wych i bobl ifanc yn Wrecsam gael dweud eu dweud ar benderfyniadau a wneir yng Nghymru. Mae’n gyfle gwych i annog pobl ifanc i ymwneud â gwleidyddiaeth, neu hyd yn oed i gychwyn eu gyrfa eu hunain mewn gwleidyddiaeth. Byddwn yn annog pawb sydd rhwng 11 ac 18 oed i gymryd rhan a chofrestru i bleidleisio yn etholiadau Senedd Ieuenctid Cymru.”

Mwy am bleidleisio

Ydych chi’n adnabod rhywun fyddai’n ddelfrydol fel aelod o Senedd Ieuenctid Cymru?

Os ydych yn byw yng Nghymru neu’n cael eich addysgu yng Nghymru a rhwng 11 ac 18 oed, gallwch roi eich enw ymlaen i ddod yn Aelod o Senedd Ieuenctid Cymru.

Fel Aelod o Senedd Ieuenctid Cymru byddwch yn nodi, yn trafod ac yn codi ymwybyddiaeth o faterion sy’n bwysig i bobl ifanc ar draws Cymru.

Darganfod mwy am sut i sefyll fel Aelod o Senedd Ieuenctid Cymru

Sut mae’n gweithio?

Bydd pob sesiwn dwy flynedd o Senedd Ieuenctid Cymru yn:

  • Grymuso pobl ifanc Cymru i nodi, codi ymwybyddiaeth o faterion pwysig a’u trafod.
  • Gwrando ar bobl ifanc Cymru, cynrychioli eu barn a gweithredu ar y materion sy’n bwysig
  • Gweithio’n agos gyda phobl ifanc yng Nghymru

Dyddiadau allweddol…

  • Cofrestru ar gyfer pleidleisio – 28 Mai – 16 Tachwedd 2018
  • Etholiadau – 5 Tachwedd – 25 Tachwedd 2018
  • Ymgeisio i fod yn rhan o Senedd Ieuenctid Cymru – 3 Medi – 30 Medi 2018
  • Canlyniadau etholiad – cyhoeddir ym mis Rhagfyr 2018

Ewch i’r wefan am fwy o wybodaeth am Senedd Ieuenctid Cymru (ychwanegu dolen)

Angen help gyda chostau gwisg ysgol? Gwelwch os ydych yn gymwysterol…

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” https://gov.wales/about/cabinet/cabinetstatements/2018/pdga/?skip=1&lang=cy “] YMGEISIWCH AM GRANT DATBLYGU DISGYBLION [/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Parcio am Ddim ar gyfer Gŵyl Fwyd y Penwythnos hwn Parcio am Ddim ar gyfer Gŵyl Fwyd y Penwythnos hwn
Erthygl nesaf Cyngerdd Blynyddol i goffáu diwedd y Rhyfel Byd Cyntaf Cyngerdd Blynyddol i goffáu diwedd y Rhyfel Byd Cyntaf

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Wo
Mae asesiad risg hinsawdd Gogledd Cymru yn amlygu’r camau gweithredu sydd eisoes yn mynd rhagddynt, a’r angen i feithrin mwy o gadernid
Pobl a lle Arall Datgarboneiddio Wrecsam
Hydref 23, 2026
Llun o Marchnad y Cigyddion Wrecsam
Ffocws ar gymorth busnes yn Wrecsam
Busnes ac addysg
Hydref 23, 2026
National Adoption Week 2026
Wythnos Mabwysiadu Genedlaethol 2026 – astudiaeth achos gan Wasanaeth Mabwysiadu Gogledd Cymru
Y cyngor Pobl a lle
Hydref 23, 2026
Could you be a councillor?
Allech chi fod yn gynghorydd?
Pobl a lle Digwyddiadau
Hydref 22, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Llwyddiant Trawsnewid Trefi i Ragazzi
Busnes ac addysgPobl a lle

Llwyddiant Trawsnewid Trefi i Ragazzi

Hydref 21, 2026
Sam Gardner
DigwyddiadauArallBusnes ac addysg

Athro ac awdur i roi sgwrs bwerus ar y system ofal

Hydref 22, 2026
Wrecsam 2029
Pobl a lle

Mae’n swyddogol! Mae Wrecsam wedi’i henwi ar restr fer derfynol teitl Dinas Diwylliant y DU

Hydref 22, 2026
Mayor attending the Taste of Nigeria Festival
Pobl a lleArall

Ymrwymiadau Maer Wrecsam – Hydref

Hydref 21, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English