Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Ydych chi eisiau gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i fywydau pobl? Edrychwch ar y swyddi hyn…
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Arall > Ydych chi eisiau gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i fywydau pobl? Edrychwch ar y swyddi hyn…
ArallPobl a lleY cyngor

Ydych chi eisiau gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i fywydau pobl? Edrychwch ar y swyddi hyn…

Diweddarwyd diwethaf: Medi 7, 2018 11:58 am
Rhannu
Darllen 5 funud
Wrexham Council Community Support Work
RHANNU

Ydych chi erioed wedi dyheu am swydd sy’n rhoi boddhad, lle mae eich gwaith yn effeithio’n gadarnhaol ar bobl yn eich cymuned?

Cynnwys
  • Ydi hyn yn ymddangos yn debyg i chi?
  • Ond dydw i erioed wedi gwneud y math yma o waith o’r blaen?
  • Pam ddes i yn weithiwr cefnogi…
  • Diwrnod agored

Os ydych chi, gall hyn fod yn ddelfrydol i chi….gan fod gennym ni nifer o leoedd ar gyfer gweithwyr cefnogi parhaol a dros-dro.

Ond i wneud y swydd yma’n dda, bydd angen pentwr o frwdfrydedd arnoch, digon o angerdd ac ynni yn ogystal ag ymrwymiad gwirioneddol i’ch gwaith…

Ydi hyn yn ymddangos yn debyg i chi?

Mae ein gweithwyr cefnogi yn helpu pobl i fyw mor annibynnol â phosibl yn eu cartrefi eu hunain.

Maent yn garedig a gofalgar ac yn darparu cymorth i bobl gydag anableddau dysgu, synhwyraidd a chorfforol. A’r hyn sy’n sylfaenol ydi eu bod yn gwneud gwahaniaeth enfawr i lawer o fywydau.

Mae’n swydd bwysig iawn.

Os ydych yn unigolyn gofalgar a allai ffynnu gyda’r cyfrifoldeb hwn, darllenwch fwy os gwelwch yn dda…

PLANT MEWN YSGOL? DARGANFYDDWCH MWY AM YMGEISIO AM HELP I DALU AT GOSTAU GWISG YSGOL A FWY…

Ond dydw i erioed wedi gwneud y math yma o waith o’r blaen?

Does dim bwys am hynny! Mae yna hyfforddiant rhagorol mewn grym i’ch dysgu. Yr hyn sy’n bwysig yw chi fel unigolyn a’ch cymeriad.

Bydd angen Diploma mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol Lefel 2 (neu gyfatebol) arnoch, felly os nad yw hwn gennych chi eisoes, bydd angen i chi astudio ar ei gyfer o fewn amserlen a gytunir os yw eich cais yn llwyddiannus.
Hefyd mae sgiliau cyfathrebu da yn angenrheidiol!

Mae yna gyfleoedd datblygu gwych a byddwch yn derbyn cefnogaeth gan reolwyr ymroddedig.

Er mwyn rhoi gwell cipolwg ar yr hyn mae bod yn weithiwr cefnogi yn ei olygu, dyma ychydig o gyngor gan un o’n staff…

Pam ddes i yn weithiwr cefnogi…

“Cyn y rôl yma roeddwn yn gweithio mewn archfarchnad am saith mlynedd ochr yn ochr â fy astudiaethau. Wedi i mi raddio, fel nifer o bobl, roeddwn yn ddryslyd ynglŷn â beth yn union roeddwn i eisiau ei wneud.

“I ddechrau wrth gwrs rhesymau ariannol wnaeth i mi ddechrau chwilio am swyddi – ond mae gwaith cefnogi yn wahanol gan mai bywyd unigolyn arall yw’r swydd mewn gwirionedd. Yn fuan iawn newidiodd hyn fy mhersbectif ynglŷn â ‘gwaith’ – ac nid ‘fi’ oedd yn bwysig bellach.

“Y peth gorau am hyn yw y gallaf ddefnyddio’r holl ddoniau/diddordebau/sgiliau yr wyf wedi eu casglu, a’u defnyddio yn greadigol o fewn gwaith cymorth. Rwyf wedi cael cefnogaeth aruthrol gan fy rheolwr ac wedi gallu sefydlu grŵp cerddoriaeth i oedolion gydag anableddau dysgu – sy’n gyfle i bobl ymuno â band neu roi cynnig ar wahanol offerynnau.

“Y gallu hwn i gyflwyno fy niddordebau fy hun a phethau rwyf yn angerddol ynglŷn â nhw a gweld eraill yn elwa o hynny sy’n creu’r boddhad yn y swydd, boddhad nad ydw i erioed wedi ei brofi o’r blaen.

“O ran teithio, rwyf wedi cael y cyfle i gefnogi unigolyn i fynd ar wyliau – oedd yn llawer o hwyl iddo ef ac i minnau!

“Fe ofynnais i gael fy nghyflwyno i dai gwahanol ac fe helpodd fy rheolwr fi i wneud hynny, ac felly rwyf wedi cael y fraint o gefnogi llawer o bobl wahanol.

“Ers dechrau gwaith cefnogi rwy’n teimlo mod i’n well unigolyn, mae’r gallu i gefnogi pobl gyda gweithgareddau ac annog hwyl a chyffro ym mywyd dyddiol unigolyn arall yn wych i mi – dyma’r swydd orau yn y byd.”

Diwrnod agored

Mae yna ddiwrnod agored yn Nhŷ Pawb ar Fedi 12. Felly os hoffech fwy o wybodaeth, ewch yno rhwng 10am a 2pm ac fe fyddwch yn gallu cwrdd â’r tîm.

I weld y disgrifiad swydd yn llawn ac i wneud cais, cliciwch ar y ddolen isod os gwelwch yn dda.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”https://www.wrexham.gov.uk/welsh/vacancies_cy/vacancy.cfm?v_id=A8E9A76E-B9DA-6BB0-A6219688AC6E1F67″] Gwych … Ddangoswch y SWYDD [/button] [button color=”” size=”large” type=”square_outlined” link=”https://newyddion.wrecsam.gov.uk/”] Na… Dw i’n iawn ddiolch [/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol business workshop wrexham Digwyddiadau gwych i helpu busnesau drwy’r broses tendro…
Erthygl nesaf Erddig Wrexham Heb weld hwn? Mae ffigyrau newydd yn dangos bod twristiaeth yn werth £118m i’r economi

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Mayor with the Registrar team
Ystafell seremoni Neuadd y Dref yn ailagor yn swyddogol ar ôl ei hadnewyddu
Arall Pobl a lle Y cyngor
Medi 4, 2026
Derbyn i ysgolion: dyddiadau allweddol ar gyfer 2026/2027
Derbyn i ysgolion: dyddiadau allweddol ar gyfer 2026/2027
Busnes ac addysg Y cyngor
Medi 4, 2026
Football park and ride
Wrecsam v Burnley – tynnwch y straen allan o barcio ar ddiwrnod y gêm
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle
Medi 4, 2026
Penley Hospital
Ymgynghoriad ar ddyfodol gwasanaethau yn Ysbyty Llannerch Banna
Arall Pobl a lle
Medi 3, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

BetterPoints Wrecsam yn lansio gyda gwobr gwyliau gwerth £900 mewn dinas yn Ewrop
Pobl a lleY cyngor

BetterPoints Wrecsam yn lansio gyda gwobr gwyliau gwerth £900 mewn dinas yn Ewrop

Medi 3, 2026
Mae Tŷ Pawb yn cyhoeddi tymor newydd o gyngherddau amser cinio AM DDIM.
DigwyddiadauPobl a lle

Mae Tŷ Pawb yn cyhoeddi tymor newydd o gyngherddau amser cinio AM DDIM.

Medi 2, 2026
Yorke Street
ArallPobl a lle

Ydych chi’n gyrru i ganol dinas Wrecsam? Parciwch yn gyfrifol a dilynwch reolau traffig o amgylch y Stryd Fawr

Medi 1, 2026
Blue emergency services light
ArallPobl a lle

Codi baner 999 i gefnogi Diwrnod y Gwasanaethau Brys

Medi 1, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English