Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein Polisi Preifatrwydd.
Derbyn
Newyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Haf o sgiliau newydd
Rhannu
Notification Show More
Newyddion diweddaraf
St Anne's
Hapus, brwdfrydig a chefnogol – mae adroddiad Estyn am Ysgol Santes Anne wedi cyrraedd!
Busnes ac addysg
Wrexham Social care academy
Academi Gofal Cymdeithasol Wrecsam
Busnes ac addysg Y cyngor
Rhif 10 am gael ei lobïo am wasanaeth trên o Wrecsam i Euston
Rhif 10 am gael ei lobïo am wasanaeth trên o Wrecsam i Euston
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle Y cyngor
park and ride
Wrecsam v Portsmouth – cofiwch am y Parcio a Theithio
Digwyddiadau Pobl a lle
Tŷ Pawb yn croesawu gwirfoddolwyr yn ôl i’r Ardd ar y To!
Tŷ Pawb yn croesawu gwirfoddolwyr yn ôl i’r Ardd ar y To!
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle
Newyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Haf o sgiliau newydd
Pobl a lleY cyngor

Haf o sgiliau newydd

Diweddarwyd diwethaf: 2018/09/25 at 11:37 AM
Rhannu
Darllen 4 funud
Haf o sgiliau newydd
RHANNU

“Nid oes unrhyw un erioed wedi dweud pa mor anhygoel ydw i, ac mae cael rhywun yn rhoi gymaint o ffydd ynof fi yn rhywbeth nad wyf erioed wedi’i gael o’r blaen.”

Mae rhaglen o weithgareddau magu hyder a lles i bobl ifanc wedi bod yn rhedeg yr haf hwn ac mae wedi cael adborth cadarnhaol.

Mae’r tîm ADTRAC wedi bod yn annog cyfranogwyr sy’n rhan o’r prosiect i fynd allan a chyfarfod pobl newydd drwy gymryd rhan mewn sesiynau galw heibio, sesiynau magu hyder a theithiau dydd. Mae’r rhai sy’n cymryd rhan wedi bod yn adeiladu eu gwydnwch wrth ddatblygu sgiliau newydd mewn amgylchedd cefnogol.

Mae’r tîm hwn yn gweithio gyda phobl ifanc 16-24 oed sy’n profi rwystrau sy’n eu hatal rhag datblygu i naill ai addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant. Mae’r tîm yn gweithio i oresgyn y rhwystrau hyn.

Sgiliau Bywyd

Mae’r gweithgareddau llawn hwyl wedi’u hanelu at gynyddu cymhelliant wrth ddatblygu sgiliau cadw amser, gwaith tîm, cyfathrebu a sgiliau byw hanfodol eraill. Mae’r grŵp wedi cymryd rhan mewn sesiynau ymwybyddiaeth ofalgar a myfyrdod yn ogystal â chrefft byw yn y gwyllt a gaiff eu rhedeg gan Wild Elements. Mae gweithgareddau wedi galluogi’r bobl ifanc i ymarfer dilyn cyfarwyddiadau a mesurau diogelwch a bu cyfranogwyr ADTRAC yn creu eu blychau adar eu hunain gan ddefnyddio offer.

PLANT MEWN YSGOL? DARGANFYDDWCH MWY AM YMGEISIO AM HELP I DALU AT GOSTAU GWISG YSGOL A FWY…

Mae’r tîm ADTRAC hefyd wedi trefnu diwrnodau allan i Erddig, Loggerheads a Thraeth Talacre i helpu cyfranogwyr i feithrin perthnasoedd cadarnhaol a gweithio fel rhan o dîm. Mae gweithgareddau eraill wedi cynnwys ffotograffiaeth, creu mygydau a chwarae rownderi yn y parc. Mae adborth o sesiynau’r haf wedi bod yn gadarnhaol iawn, a bu’r bobl ifanc yn mwynhau dysgu sgiliau wrth fod yn yr awyr agored. Dywedodd un o’r bobl ifanc yn ddiweddar:

“Rwyf wedi bod yn gweithio gydag ADTRAC ers nifer o fisoedd bellach ac nid wyf wedi edrych yn ôl!  Rwyf wedi gallu cyfarfod pobl newydd drwy gwrs gwirfoddoli, diwrnod magu hyder, Loggerheads a’r taith i draeth Talacre.  Mae fy mentor bob amser wedi gwneud i mi deimlo mor arbennig a da amdanaf fy hun. Nid oes unrhyw un erioed wedi dweud pa mor anhygoel ydw i, ac mae cael rhywun yn rhoi gymaint o ffydd ynof fi yn rhywbeth nad wyf erioed wedi’i gael o’r blaen. Rwyf bob amser yn gwenu pan fyddaf yn siarad gyda hi a’i gweld.”

Nod prosiect ADTRAC, sydd wedi’i ariannu’n rhannol gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru, yw darparu cefnogaeth bwrpasol un i un gan fentoriaid personol ADTRAC neu ymarferwyr iechyd meddwl GIG yn ogystal â hyfforddiant wedi’i deilwra a chyrsiau a gynlluniwyd i ddiwallu anghenion penodol a gwella lles pobl ifanc 16-24 oed sy’n ymwneud â’r prosiect.

Cysylltwch â thîm ADTRAC ar gyfer Wrecsam a Sir y Fflint yn ADTRAC@wrexham.gov.uk neu ewch i https://www.gllm.ac.uk/adtrac i gael rhagor o fanylion am y prosiect hwn.

Gall Darparwyr Hyfforddiant hefyd gael rhagor o wybodaeth am System Bwrcasu Ddeinamig Prosiect ADTRAC i ddarparu amrywiaeth eang o wasanaethau fel sgiliau byw, cyflogadwyedd a sgiliau sy’n benodol i sectorau yn https://www.sell2wales.gov.wales/authority/authority_noticestatus.aspx?ID=75350

Angen help gyda chostau gwisg ysgol? Gwelwch os ydych yn gymwysterol…

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” https://www.wrexham.gov.uk/welsh/education_w/school_uniform_grant_w.htm “] YMGEISIWCH AM GRANT DATBLYGU DISGYBLION [/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Wrexham Anrhydeddu Meirw’r Rhyfel Mawr yn Wrecsam – Apêl
Erthygl nesaf Wrexham Council audit committee Ydyn ni’n rheoli’r risgiau? Cewch wybod ar 27 Medi

Cysylltu

590 Dilynwyr Hoffi
1k Dilynwyr Dilyn
500 Dilynwyr Dilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

St Anne's
Hapus, brwdfrydig a chefnogol – mae adroddiad Estyn am Ysgol Santes Anne wedi cyrraedd!
Busnes ac addysg Chwefror 27, 2026
Wrexham Social care academy
Academi Gofal Cymdeithasol Wrecsam
Busnes ac addysg Y cyngor Chwefror 27, 2026
Rhif 10 am gael ei lobïo am wasanaeth trên o Wrecsam i Euston
Rhif 10 am gael ei lobïo am wasanaeth trên o Wrecsam i Euston
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle Y cyngor Chwefror 27, 2026
park and ride
Wrecsam v Portsmouth – cofiwch am y Parcio a Theithio
Digwyddiadau Pobl a lle Chwefror 23, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Wrexham Social care academy
Busnes ac addysgY cyngor

Academi Gofal Cymdeithasol Wrecsam

Chwefror 27, 2026
Rhif 10 am gael ei lobïo am wasanaeth trên o Wrecsam i Euston
Datgarboneiddio WrecsamPobl a lleY cyngor

Rhif 10 am gael ei lobïo am wasanaeth trên o Wrecsam i Euston

Chwefror 27, 2026
park and ride
DigwyddiadauPobl a lle

Wrecsam v Portsmouth – cofiwch am y Parcio a Theithio

Chwefror 23, 2026
Tŷ Pawb yn croesawu gwirfoddolwyr yn ôl i’r Ardd ar y To!
Datgarboneiddio WrecsamPobl a lle

Tŷ Pawb yn croesawu gwirfoddolwyr yn ôl i’r Ardd ar y To!

Chwefror 23, 2026
Wrexham County Borough Council
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Dolenni cyflym

  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Newyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI

© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Wedi’i dynnu oddi ar y rhestr ddarllen.

Undo
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Lost your password?
  • Cymraeg
  • English